Cyrraedd Yma
Mae ardal Pumlumon - Pum Copa yn hawdd i'w gyrraedd ar y ffordd, rheilffordd neu fws:
Ar y ffordd:
O Ogledd Cymru:
Cymerwch yr A470 (ffordd yr arfordir) i Ddolgellau, yna'r A487 i Aberystwyth.
O'r Gogledd: Dilynwch yr arwyddion o Gaer i Wrecsam, yna Croesoswallt, Trallwng ac Aberystwyth.
Mae'r ddwy ffordd yn mynd yn syth i Aberystwyth, neu cymerwch yr A4159 yn Bow Street.
Gall yr anturus gymryd y ffordd olygfaol o Dal-y-Bont.
O'r Canolbarth: Mae ardal y Pum Copa lai na 2 awr ar y ffordd o'r Canolbarth. O'r M54/A5, dilynwch arwyddion o Amwythig i'r Trallwng ac yna Aberystwyth.
O'r De: M5 i Birmingham, ac yna fel ag o'r Canolbarth.
O DdeCymru: M4 i Gaerfyrddin, A485 i Lanbedr-Pont-Steffan, A482 i Aberaeron a dilynwch ffordd yr arfordir i Aberystwyth. Os mynnwch, cymerwch ffyrdd golygfaol yr A485 neu'r A4120 cyn cyrraedd Aberystwyth.
O Aberystwyth dim ond 10 munud ar y ffordd sydd nes y byddwch yng nghalon ardal y Pum Copa.
Er mwyn gweld map ffordd mwy manwl, ewch at y Map Deithio
Ar y Trên:
Mae rheilffyrdd yn cyrraedd Aberystwyth o bob rhan
o'r D.U. trwy gyfuniad o gysylltiadau Prif-Reilffyrdd a Rheilffyrdd-Lleol.
Chwiliwch am wybodaeth ymlaen llaw gyda'ch gorsaf
agosaf.
Ar y Bws:
Mae Gwasanaethau Bws Preifat yn ogystal â National Express yn darparu gwasanaeth rheolaidd at yr ardal. Chwiliwch am wybodaeth yn eich Gorsaf leol. Mae gwasanaethau bws yn terfynnu yn Aberystwyth.
O Orsaf Drênau Aberystwyth, mae Rheilffordd Ager Dyffryn Rheidol yn cynnig gwasanaeth rheolaidd sy'n llawn golygfeydd i Bont-ar-fynach. Mae gwasanaeth fysiau lleol, wedi ei leoli y tu allan i Orsaf Drênau Aberystwyth, yn darparu mynediad i nifer o leoliadau gwledig yn yr ardal. Yn ogystal ceir safle Dacsis gerllaw'r Orsaf Drênau.
|