Beicio Mynydd ac Oddi-ar-y-Ffordd
Mae gan feicwyr eu dewis o ffyrdd mynyddig neu lwybrau seiclo sy'n croesi'r ardal yn flith-drafflith o'r Gogledd i'r De, o'r Dwyrain i'r Gorllewin, o ddyffryn i ddffryn, er mwyn mwynhau taith seiclo olygfaol ac hamddenol - neu gystadleuaeth sy'n eich ysgwyd at eich esgyrn!
Beicio mynydd a beicio oddi ar y ffordd.
Mae Beicio mynydd a Beicio oddi-ar-y-ffordd yn prysur ddod yn un o chwaraeon adloniannol mwyaf poblogaidd y D.U., a Chanolbarth Cymru yw'r lleoliad perffaith ar gyfer y gweithgaredd gwych hwn. Os ydych yn feiciwr profiadol, bydd y llwybrau a adeiladwyd at y pwrpas yn eich herio. Ar gyfer y teulu, rhaid profi'r llwybrau a'r lonydd mynyddig golygfaol. Os ydych yn un sydd yn mwynhau'r pleser o seiclo, mae ardal Pumlumon gyfan wrth eich gwasanaeth!
Er mwyn manylion am llwybrau seiclo Yn yr ardal, ymwelwch â Map Deithio.
|
All original material on this site is © Pentir Pumlumon, or © individual Pentir Pumlumon Members, unless otherwise stated.
Reproduction is expressly forbidden without prior consent.
Site design and development by
Nantinet 
.