Trefnwch eich gwyliau perffaith yng Nghanolbarth Cymru
Croeso i Dwristiaeth Pumlumon ym Mynyddoedd y Cambrian
Yn gwasanaethu Ucheldiroedd Gogledd Ceredigion yng Ngorllewin Cymru.
Tirwedd ysblennydd yn ymestyn o Fynydd Pumlumon, y copa uchaf ym Mynyddoedd y Cambrian, i lawr tuag at arfordir Bae Ceredigion. Ardal wyllt hynafol a hardd lle mae’n drueni na all y waliau siarad. Rydym yn cynnig llwybrau diarffordd a phrofiad gwreiddiol, ddydd a nos.
Crwydro
Mae cerddwyr a beicwyr yn cael eu denu yma gan y tirwedd amrywiol a’r golygfeydd naturiol. Cewch grwydro milltiroedd o fannau agored eang yma, neu, dilynwch dorfeydd yr haf at ein hatyniadau poblogaidd. Dewch o hyd i arafwch ein lonydd gwledig, yna ewch ar daith i’r arfordir nad yw byth mwy nag 20 munud i ffwrdd. Beth am archwilio ychydig ymhellach? Dyma un o’r lleoedd gorau yn y DU i syllu ar y sêr; syllwch ar y Llwybr Llaethog yn Pontarfynach!
Profi
Dyma le i enaid gael llonydd. P’un a ydych yma i ymlacio neu i fwrw iddi, byddwch yn dychwelyd adref wedi’ch adfywio ac yn barod i ailgydio. Ailgysylltwch â natur a mwynhewch yr awyr iach, pur. Dewch i brofi gwledd i’r synhwyrau fydd yn eich gadael yn mynnu mwy. Mae’r cenedlaethau o ymwelwyr sy’n dychwelyd flwyddyn ar ôl blwyddyn yn brawf o hyn!
Mwynhau
Efallai mai ystrydeb yw ‘Bod rhywbeth ar gyfer pawb’, ond mae’n sicr yn berthnasol yma. Beth bynnag eich sefyllfa – boed i chi fod wedi ymddeol, neu yma gyda’ch teulu ifanc, byddwch yn siŵr o ddarganfod rywbeth i’ch plesio. Darperir ar gyfer rhai hynny sy’n haneswyr, cerddwyr, arbenigwyr bwyd, selogion trenau stêm a rhai sy’n caru celf a chrefft. A gyda digon o bethau i’w gwneud yn rhad ac am ddim, byddwch ar ben eich digon!
Twristiaeth Pumlumon – Popeth sydd ei Angen Yn Yr Un Man
Lleoedd i fwyta
Tafarn wledig, ystafell de, bwyty neu siop tecawê? Penderfynwch chi. P’un a ydych chi’n chwilio am goffi cain neu gwrw iawn mae yma rhywbeth at ddant pawb. Rhaid wrth bryd traddodiadol Cymreig wrth gwrs; ond ceir yma hefyd fwydlenni ysbrydoledig a dyfeisgar o bob rhan o’r byd. Cadwch lygad am siop tecawê Thai yn y lleoedd mwyaf annisgwyl!
Lleoedd i aros
Mae digonedd o ddewis ar eich cyfer – bythynnod clyd gwladaidd, gwestai moethus, tai llety, podia neu wersylloedd. Arhoswch mewn pentref tlws, ar fferm weithredol, neu ewch am unigrwydd llwyr y gwyllt, chi biau’r dewis. Ceir yma y llety perffaith ar gyfer egwyl ramantus, dihangfa penwythnos neu wyliau teuluol.
Atyniadau
Tamaid i aros pryd megis yw’r abaty Sistersaidd adfeiliedig, y rhaeadrau syfrdanol, y tŷ glöyn byw trofannol a’r daith ar drên stêm. Mae digonedd yma i lenwi’ch amser. Ymwelwch â gorsaf bŵer hydro-electrig, ewch o dan y ddaear mewn hen fwynglawdd plwm arian, neu crwydrwch yn hamddenol trwy ystâd Hafod hyfryd, hardd. Gallwch hyd yn oed wylio cannoedd o Farcutiaid Coch ar amser bwydo – golygfa fythgofiadwy.
Siopa
Mae’r ardal yn ganolfan i grefftwyr a gwneuthurwyr ac yn ferw gwyllt o greadigrwydd gyda amrywiaeth eclectig o gelf, crefft a bwyd dychmygus na cheir yn unman arall. Mae llawer o’r cynnyrch ar gael yn ein siopau lleol, tra bod eraill i’w cael ar-lein. Ceir hyd i ddetholiad hyfryd o’u nwyddau unigryw yma ar y wefan, sy’n rhoi’r dewis i chwi siopa nawr neu yn hwyrach.