Mae Sue Clow yn artist tecstilau sy’n arbenigo mewn Ailgylchu Tecstilau Creadigol. Allan o decstilau cartref bob dydd bydd yn creu hetiau a bagiau, rygiau a chrogluniau a llawer mwy. Mae Sue hefyd yn dylunio pecynnau crefft er mwyn ysbrydoli ac annog eraill i ddysgu sgiliau ailgylchu tecstilau gan obeithio adfer rhai hen sgiliau traddodiadol a’u gwneud yn hygyrch ac yn ddifyr. Gellir dod o hyd i’r pecynnau a’r cynnyrch gorffenedig ar werth ar wefan Rag Art Studios. Cyn y pandemig roedd Sue yn teithio’n eang i sioeau crefft, gwyliau a ffeiriau, gan arddangos gwaith a chynnal gweithdai. Yn y dyfodol mae hi’n gobeithio agor stiwdio gartref ar gyfer gweithdai ond mae hyn wedi ei ohirio ar hyn o bryd. Yn y cyfamser mae hi’n dysgu sgiliau newydd ac yn gweithio trwy bentyrrau enfawr o ddeunyddiau a gasglwyd dos y blynyddoedd! Mae Sue yn stocio ystod eang o gyflenwadau crefft anarferol ar gyfer gwneud rygiau a thechnegau tecstilau eraill nad ydynt ar y wefan ac mae croeso i chi holi os ydych chi’n chwilio am offer neu ddeunydd.
Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.
Sorry, unable to load the Maps API.






