Ein Hardal

Mae ein hardal yn ymestyn o Pontarfynach i lawr i Dregaron ac yn cynnwys cymunedau cymoedd Ystwyth a Rheidol. Ein henw, Pumlumon, yw’r copa uchaf ym Mynyddoedd y Cambrian, Canolbarth Cymru ac mae’n codi’n fry dros gefn gwlad gogledd Ceredigion. Mae tair afon, yr Hafren, y Rheidol a’r Gwy, yn ymdroelli lawr y mynyddoedd hyn trwy olygfeydd dramatig ac amrywiol i’r arfordir yn Aberystwyth, tra bod pedwaredd, y Teifi, yn dirwyn i’r de tuag at Aberteifi.

Ers canrifoedd mae copaon gwyllt, godrefryniau tonnog a dyffrynnoedd dwfn mynydd Pumlumon wedi gweithredu fel rhwystrau arswydus, gan ei wneud yn un o rannau lleiaf adnabyddus Cymru. Mae’r tirwedd yn dwyn creithiau ei hanes, wedi’u cerfio gan natur, diwydiant a chrefydd. Heddiw, mae’r awyrgylch anghysbell, heddychlon a diffyg canolfannau a datblygiadau trefol ymhlith rhinweddau mwyaf yr ardal.

Rydym wedi bod yn croesawu twristiaid yma ers bron 250 mlynedd. Denodd y ffasiwn ar gyfer teithiau “Pictiwrésg” ddosbarthiadau segur cymdeithas i rannau ucheldirol Prydain, i ryfeddu, disgrifio a braslunio mynyddoedd, rhaeadrau, golygfeydd gwledig ac adfeilion hynafol. Roedd Cymru, gyda’i hiaith ei hun, a’i diwylliant a’i threftadaeth unigryw, yn ymddangos i’r twristiaid cynnar hyn yn wlad dramor egsotig, ac unman yn fwy nag ymhlith bryniau Sir Aberteifi (Ceredigion bellach). Cynyddodd ei phoblogrwydd gyda datblygiad ystâd Hafod fel tirwedd Pictiwrésg enghreifftiol. Roedd artistiaid, ysgrifenwyr teithio a beirdd rhamantus yn clodfori’r ardal yn eu gweithiau.

Mewn gwrthgyferbyniad, o’r 1830au datblygodd mwyngloddio plwm yn ddiwydiant sylweddol a throdd yr ucheldiroedd yn dirwedd ddiwydiannol. Tyfodd pentrefi newydd, gyda nifer o dafarndai a natur gorllewin gwyllt iddynt. Adeiladwyd cronfeydd dŵr i ddarparu ynni dŵr, ac adeiladwyd rheilffordd o Pontarfynach i’r arfordir. Ymfudodd mwynwyr i’r ardal o Gernyw, Swydd Efrog a mannau eraill: gellir gweld eu henwau ar gerrig beddi mewn mynwentydd gwledig ac mae rhai o’u disgynyddion yma o hyd. Heddiw, mae’r hen adeiladau mwyngloddiau a thomenni fwy neu lai wedi’u hamsugno’n ôl i’r dirwedd.

Loading...

Heddiw, mae ardal Pumlumon yn grynhoad o haenau hanesyddol niferus mewn lleoliad naturiol hyfryd. Fe welwch llawer o lwybrau wedi’u nodi, a cheir yma gyflenwad dihysbydd o lwybrau troed cyhoeddus sy’n eich arwain trwy amrywiaeth eang o olygfeydd. Gyda chymaint o gynefinoedd gwahanol, mae Pumlumon drwyddi draw yn baradwys i wylwyr adar, a gall hyd yn oed y rhai lleiaf ymwybodol ohonom ddysgu adnabod ein haderyn mwyaf arbennig, y barcud coch.