Place Category: Y Gwneuthurwyr
Mae Chwaethus yn gwmni crefft o Gymru sy’n arbenigo mewn cynnyrch Cymreig. Yma yn Chwaethus rydym yn enwog am ein Ladis Cymreig wedi’u fframio, wedi’u gwneud yn arbennig gyda gwlân enwog Melin Tregwynt. Rydym yn gwneud cardiau cyfarch yn Gymraeg a Saesneg ac wedi datblygu dwy ystod cynnyrch unigryw ar gyfer mamau a neiniau yn benodol. Mae’r dyluniadau hyn ar gael ar glustogau, mygiau, matiau diod, byrddau torri ac fel printiau. Ynghyd â chardiau printiedig rydym hefyd yn cynhyrchu cardiau ffabrig gwreiddiol sydd wedi’u teilwra i anghenion y cwsmer ac wedi’u personoli i weddu i unrhyw achlysur.
Loading...
No Records Found
Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.
Maps failed to load
Sorry, unable to load the Maps API.







