Parcio, croeso i blant, cyfleusterau anabl, WiFi, archebu arlein, croeso i gwn.
Yn swatio ym mynyddoedd ysblennydd y Cambrian rhwng Aberystwyth a Chwm Elan, mae Bythynnod Pengwernydd Cottages yn cynnig pedwar bwthyn hunanarlwyo chwaethus.
Dewch i fwynhau croeso cynnes Cymreig yn Mythynnod Pengwernydd. Ein fferm deuluol draddodiadol weithredol yw’r lleoliad delfrydol ar gyfer arhosiad cofiadwy mewn llety gwyliau wedi’u dyfarnu’n 4 a 5 seren gan Croeso Cymru. Wedi’i lleoli yn ucheldiroedd hyfryd, tawel Mynyddoedd y Cambrian yng Nghanolbarth Cymru – taith fer o dref brysur cosmopolitaidd, prifysgol Aberystwyth.
Mae Bythynnod Pengwernydd yn cynnig pedwar bwthyn gwyliau hunanarlwyo o ansawdd uchel yng nghefn gwlad ysblennydd Canolbarth Cymru. Mae ein bythynnod gwyliau yn berffaith ar gyfer y rhai hynny sy’n dymuno mwynhau gwyliau tawel, heddychlon ymysg golygfeydd cefn gwlad godidog. Rydym yn falch iawn o fedru sicrhau lefelau uchel o gysur a gofal ar gyfer ein gwestai.
Mae awyrgylch croesawgar diffuant gan ein llety graddedig 4 a 5 seren Croeso Cymru. Mae’r fferm 200 erw wedi’i ffermio gan y teulu Hopkins er 1927; mae’n cysylltiadau teuluol yn ddwfn yn nhir yr ardal a Chymraeg yw’r iaith a siaredir ar yr aelwyd. Bythynnod Pengwernydd Cottages, yr encil gwledig delfrydol ar gyfer eich gwyliau ym Mynyddoedd y Cambrian, Canolbarth Cymru.
Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.
Sorry, unable to load the Maps API.

















