Parcio preifat, croeso i blant, twba poeth, WiFi, archebu arlein, gwefr ceir trydan
Tŷ Edwardaidd wedi’i adfer yn hyfryd ym mhentref Capel Bangor, ger Aberystwyth ym Mynyddoedd y Cambrian.
Mae’r eiddo sengl ysblennydd hwn gyda thwba poeth a gardd gefn helaeth yn berffaith ar gyfer teuluoedd a grwpiau o ffrindiau.
Mae Llys Alaw yn gartref cyfnod Edwardaidd, wedi’i adnewyddu’n chwaethus gan gadw llawer o’i nodweddion gwreiddiol. Mae wedi ei addurno a’i lunio i’r safon uchaf bosibl, a’i ddylunio fel y gall gwesteion wneud y gorau o’u hamser gyda’i gilydd, gyda’r gegin a’r ardal fwyta fawr agored yn rhedeg ar hyd y tŷ. Mae’r drysau deublyg yn agor allan i’r ardd helaeth, gan wneud y mwyaf o’ch profiad diddan dan do / awyr agored.
Ymhlith y nodweddion eraill mae’r lolfa groesawgar gyda stôf llosgi coed, a’r ystafell gemau sy’n agor allan i’r ardal twba poeth sydd â chawod ei hun. Mae lle i hyd at 5 car yn y maes parcio preifat, hael ac mae’r eiddo hefyd yn elwa o bwynt gwefru ceir trydan a lle i storio beiciau yn ddiogel.
Mae’r eiddo mewn lleoliad delfrydol ym mhentref Capel Bangor, o fewn pellter cerdded i dafarn / bwyty’r pentref lleol. Dim ond 6 milltir i ffwrdd o dref arfordirol Aberystwyth gyda thraethau Ynys Las, Aberdyfi a Chei Newydd o fewn pellter gyrru hawdd, heb anghofio Llwybr Arfordirol Ceredigion. Mae Mynyddoedd y Cambrian yn baradwys i gerddwyr. Gall gwesteion grwydro mynyddoedd Pumlumon tra fod ystâd yr Hafod a rhaeadrau enwog Pontarfynach yn agos iawn. Gall beicwyr mynydd hefyd elwa o ganolfan feicio mynydd enwog Nant-yr-Arian, ar stepen y drws, rhyw 5 munud i ffwrdd.
Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.
Sorry, unable to load the Maps API.














