Lleolir Blaengader mewn tirwedd hardd a mae yn lleoliad delfrydol ar gyfer cerdded, beicio a chwarae golff. Prin 4 milltir i ffwrdd mae tref glan môr a prifysgol Aberystwyth – sydd hefyd yn gartref i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.
Mae gennym dri bwthyn moethus gyda phob adnodd, un yn cysgu chwech o bobl a’r ddau arall yn cysgu rhwng pedwar a chwech. Adeiladau allanol carreg, wedi’u hadnewyddu yn ddiweddar yw’r bythynnod, yn cynnig golygfeydd panoramig anhygoel o Geredigion.
Mae gan bob bwthyn ei ardal patio ei hun wedi’i ddodrefnu, gyda digon o le parcio oddi ar y ffordd. Un llawr sydd i pob bwthyn felly maent yn addas ar gyfer pobl ag anawsterau symudedd. Gellir dal bws i’r dref agosaf namyn 10 metr i ffwrdd o ddrws ffrynt bob bwthyn.
Ceir yma awyrgylch gyfeillgar Gymreig gyda’r perchnogion yn byw ar y safle. Bydd basged arbennig, yn cynnwys teisennau a chyffeithiau cartref traddodiadol yn eich bwthyn i’ch croesawu.
Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.
Sorry, unable to load the Maps API.







