Parcio preifat, croeso i blant, twba poeth, cyfleusterau anabl, WiFi, archebu arlein, croeso i gwn.
Rydym yn cynnig dihangfa wledig wirioneddol eithriadol i chi, ond un sydd eto’n gyfleus ar gyfer gweithgareddau glan y môr ar draethau Aberystwyth a Borth a thwyni tywod Ynys Las.
Mae bythynnod Helygen ac Eithinog ar ochr orllewinol Mynyddoedd y Cambrian wedi’u lleoli mewn man heddychlon a hyfryd sy’n edrych dros Ddyffryn Leri ac Arfordir y Cambrian, wyth milltir i’r gogledd o Aberystwyth a milltir o ffordd arfordirol yr A487 yn Nhalybont.
Saif Llechwedd Mawr yng nghanol Mynyddoedd y Cambrian, yr ardal lleiaf poblog yng Nghymru. Mae’r bwthyn yn anghysbell, unigryw, ‘Off Grid’ ond eto gyda pob cyfleuster. Mae trydan yn cael ei gyflenwi o fanc mawr o fatris sy’n cael eu gwefru trwy ynni’r haul (Solar) a’u cefnogi gan generadur mawr. Cyswllt ffôn a WiFi trwy loeren. Enillydd Y Wobr Wyrdd, Menter Aberystwyth 2019. Mae yna deithiau cerdded di-ben-draw o stepen y drws gyda golygfeydd ysblennydd di-dor.
Honnir ei fod yn unigryw a nad oes arall o’i fath. Mae’n sefyll ar ei ben ei hun.
Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.
Sorry, unable to load the Maps API.





