Mae gan y ganolfan ddwy manege marchogaeth – dan do ac awyr agored, y ddau dan lifoleuadau, cwrs neidio a thraws gwlad llawn, trawiadol a theithiau merlota gwych o amgylch Cwm Rheidol. Mae gennym hefyd gyfleusterau rheoli stabl a darlithio.
Ar agor 7 diwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn, mae’n hanfodol archebu ymlaen llaw.
Rydym wedi ein lleoli yng nghanol prydferthwch Cwm Rheidol, bedair milltir o dref arfordirol Aberystwyth. Mae’r ganolfan wedi’i hamgáu gan yr afon Rheidol ar un ochr a Rheilffordd Cwm Rheidol ar y llall – trên stêm sy’n rhedeg ar hyd y cwm yn cario twristiaid i fyny at raeadr Fictoraidd enwog Pontarfynach.
Canolfan Marchogaeth, Hyfforddi ac Arholi Cymeradwy BHS.
Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.
Sorry, unable to load the Maps API.
