Mae’r llynnoedd hyn sydd wedi’i lleoli ar y Rheidol uchaf wrth droed Pumlumon yn rhan o gynllun Hydro drydanol Rheidol, maent yn cynnig cyferbyniad diddorol o ran profiad pysgota. Mae Dinas, y lleiaf o’r ddau lyn yn 38 erw, yn boblogaidd ac yn cael ei stocio’n rheolaidd gyda brithyll seithliw a brown. Yn ôl Moc Morgan, gohebydd pysgota ar gyfer y cylchgrawn ‘Trout and Salmon’ mae ansawdd y pysgod heb ei ail. Mae Nantymoch yn llyn llawer mwy ei faint (680acer) a mwy gwyllt ac yn darparu ehangder enfawr o bysgota brithyll brown gwyllt – gwrthwynebwyr bach ond teilwng. I’r pysgotwr sydd am lyn mwy anghysbell Nantymoch yw’r lle i ymweld ag ef. O’r lan yn unig ceir pysgota yn y ddau lyn. Pysgota plu yn unig a geir yn Nantymoch, ond caniateir troell ac abwyd hefyd yn Dinas.
Am fwy o wybodaeth: 01970 880 667
Trwydded:
Siop Ledr Aberystwyth, Aeron sports
Canolfan Ymwelwyr Nant yr Arian
Swyddfa Bost Llanfarian
P Eklund – 01970 623021
Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.
Sorry, unable to load the Maps API.










