Mae Llynnoedd Trisant yn cynnwys tri llyn, Frongoch, Rhosrhydd; Glandwgan (rhan-berchnogaeth), yn agos iawn at y ffordd rhwng Aberystwyth a Pontarfynach. Mae Frongoch a Rhosrhydd yn bysgota plu yn unig ac yn cael eu stocio’n rheolaidd â brithyll brown a seithliw. Mae ansawdd y pysgod yn rhagorol ac mae cychod ar gael. Yn Frongoch, mae gan CB Aberystwyth ddwy garafán i’w llogi ar gyfer ymwelwyr sy’n dymuno aros yn yr ardal a manteisio ar y pysgota yn y llynnoedd bach hyn, mewn lleoliad prydferth. Edmygwch olygfeydd hyfryd o’r ucheldir, yn agos at gymoedd Rheidol ac Ystwyth, a dim ond deuddeg milltir o’r arfordir yn Aberystwyth. Maent yn ddewis gwych i ymwelwyr sy’n dymuno cyfuno pysgota â gwyliau teuluol.
HAWLENNI O:
Leather Shop, Aberystwyth
Aeron Sports, Aberystwyth
Nant yr Arian Centre
Post Office, Llanfarian
Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.
Sorry, unable to load the Maps API.


