Parcio preifat, croeso i blant, WiFi, archebu arlein, croeso i gwn.
Bythynnod deniadol yn dyddio o’r 17eg ganrif yw Tŷ Mari a Penroc mewn pentref hardd o’r enw Cwmystwyth, rhyw ddwy filltir ar bymtheg o Aberystwyth ar hyd ffordd fynyddig. Mae yna deithiau cerdded gwych i’w dilyn trwy’r golygfeydd hyfryd sy’n amgylchynu’r bythynnod – yn fryniau, rhaeadrau, coetir, coedwigoedd, argaeau ac ogofâu.
Mae Tŷ Mari yn cysgu 6 gydag un ystafell wely ddwbl a dwy ystafell dau wely yn ogystal ag ystafell ymolchi a thoiled ar wahân. Mae y llawr gwaelod yn agored gyda seddi cyfforddus, bwrdd bwyta mawr a sedd ffenestr. Trwy’r ffenestr llydan gwydr dwbl ceir olygfeydd panoramig o’r ardal gyfagos. Ar hyd un wal ceir cegin llawn adnoddau. Darperir microdon, golchwr / sychwr a rhewgell pedwar drôr er hwylustod i chi. Mae Tŷ Mari yn llawn cymeriad ac yn hynod gyffyrddus.
Gwresogir gan wresogyddion stôr trydan nos a gwresogyddion darfudol ond mae’r stôf nwy yn sicrhau digon o gynhesrwydd i gadw’n glyd, hyd yn oed yng nghanol y gaeaf.
Mae yna deledu Smart, iPlayer a chwaraewr DVD gyda digonedd o DVDs wedi’u recordio ymlaen llaw i’ch diddanu. Darperir detholiad o lyfrau, posau a gemau hefyd. Mae’r gegin yn llawn adnoddau ar gyfer eich arhosiad. Mae siop y pentref ym Mhontrhydygroes yn gwerthu’r hanfodion sylfaenol tra bod y Spar rhagorol yn Rhayader a Morrisons, Tesco ac M&S yn Aberystwyth yn darparu ystod ehangach o gyflenwadau. Gallwch archebu ar-lein o Tesco ac Asda a mi wnânt ei gludo i’r bwthyn.
Mae gan Tŷ Mari ystafell ardd hyfryd ar wahân gyda golygfeydd godidog.
Mae gan Penroc un ystafell wely â dau wely iddi ac un ystafell wely ddwbl gyda balconi, sy’n eich galluogi i werthfawrogi yn llawn yr olygfa hardd ar draws y dyffryn.
Lawr grisiau mae un ystafell fawr yn cynnwys – cegin gyda chyfarpar da ar hyd un wal, ardal eistedd fawr gyda ffenestri llydan gwydr dwbl, ac ardal fyw glyd o amgylch stôf ddeniadol. Mae’r bwthyn yn glyd gyda gwres dan y llawr i lawr grisiau yn ogystal â gwresogyddion stôr trydan nos a gwresogyddion darfudol. Mae’n hynod gyffyrddus ac wedi cael ei ailwampio’n ddymunol gan ddylunydd mewnol. Mae yna deledu Smart, iPlayer a chwaraewr DVD gyda digon o ffilmiau ar gyfer bob oed i’w mwynhau. Mae yna lyfrau, posau a gemau. Mae’r gegin yn llawn offer, yn darparu’r cyfan fydd ei angen arnoch ar gyfer eich arhosiad. Dyfarnwyd gwobr Dewis y Cwsmeriaid 2018 i Penroc gan cottages.com
Ar gyfer niferodd mwy, gellir rhentu’r ddau fwthyn gyda’i gilydd ac agor drws cysylltu mewnol. Felly, ceir yna fannau byw a bwyta mawr, ynghyd â dwy ystafell ymolchi a phum ystafell wely ddwbl / dau wely yn ychwanegol â’r ystafell ardd. Darperir cynfasau a thyweli ar gyfer y rhai sy’n aros ym Penroc.
Mae’r wefan (www.welsh-hideaways.co.uk) yn cael ei diweddaru’n rheolaidd ac mae arni luniau o bob ystafell yn y ddau fwthyn.
Mae croeso i gŵn gyda lle i 2 gi ar y tro.
Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.
Sorry, unable to load the Maps API.





