Mae Bwlch Nant-yr-Arian yn ganolfan coedwig ragorol sy’n cynnig dewis o weithgareddau hamdden yng Nghanolbarth Cymru. Yn eiddo i, ac yn cael ei reoli gan, Cyfoeth Naturiol Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.
Yn atyniad arobryn, mae’r Ganolfan Ymwelwyr wedi’i hailddatblygu’n llwyr fel adeilad eco-gyfeillgar gyda chyfleusterau bwyty rhagorol, siop anrhegion a golygfeydd gwych. Mae Nant-yr-Arian yn enwog am fwydo’r Barcud Coch yn ddyddiol. Gellir gweld hyn o’r Ganolfan Ymwelwyr neu o sawl man o amgylch y llyn. Mae system fideo gyda nifer o gamerâu o amgylch y llyn, sy’n rhoi i chi olwg penigamp o’r adar.
Llwybrau Cerdded a Beicio yn Nant-yr-Arian
Ar gyfer y rhai mwy athletaidd, ceir yma nifer o Lwybrau Cerdded gyda arwyddbyst arnyn nhw, un ohonynt yn addas ar gyfer pobl anabl. Mae Llwybrau Beicio rhagorol yn cychwyn ac yn gorffen yng nghanolfan Nant-yr-Arian, gyda chyfleuster golchi beiciau yn y Ganolfan Ymwelwyr.
Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.
Sorry, unable to load the Maps API.