Parcio priefat, croeso i blant, twba poeth, WiFi, lle gwefr ceir trydan, croeso i gwn.
Ymlaciwch yn hamddenol yn y bwthyn hudolus 3 ystafell wely, 2 ystafell ymolchi hwn. Wedi ei adnewyddu’n gyfan gwbl y tu mewn a’r tu allan, ar gyfer tymor 2021 gyda thwba poeth newydd a phod cylchdroi moethus. Mewn lleoliad hyfryd yn edrych dros dirwedd syfrdanol Cwm Ystwyth. Wedi’i leoli rhwng Cwm Elan (Parc Awyr Dywyll Rhyngwladol) ger Rhaeadr, a Pontarfynach.
Mwynhewch groeso cynnes, bywyd gwyllt diddorol a’r dirwedd hanesyddol godidog o amgylch y bwthyn hunanarlwyo hwn.
Mae Esgair Wen yn cysgu 5 o bobl ac yn lety addas ar gyfer gwesteion sy’n mwynhau pob gweithgaredd diwylliannol a gwledig, megis cerdded, beicio mynydd, gwylio adar, syllu ar y sêr, pysgota, ymweliadau a hanes natur. Mae hefyd o fewn 30 munud mewn car i dref Aberystwyth a thraethau hyfryd arfordir Bae Ceredigion.
Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.
Sorry, unable to load the Maps API.
