Parcio preifat, croeso i blant, twba poeth, WiFi
Bythynnod 4 seren yw Ger y Faen a Dan y Faen, y ddau yn cysgu 4 o bobl; wedi’u lleoli filltir o bentref byd-enwog Pontarfynach. Fe’u lleolir yn ngerddi helaeth, tirlunedig, cartref y perchnogion sy’n wynebu tua’r de ynghanol cefn gwlad agored, lawr dreif breifat, 200 llath oddi ar yr A1420. Mae yna ystafell gemau, a hefyd twba poeth sy’n cael ei rannu rhwng y ddau fwthyn. Mae yn ganolfan ddelfrydol ar gyfer cerdded, beicio a chrwydro Mynyddoedd y Cambrian.
Bwthyn clyd yw Ger y Faen sy’n cyd ffinio â chartref y perchennog. Mae ganddo lawer o nodweddion gan gynnwys stôf llosgi coed ar gyfer egwyliau gaeaf a nosweithiau oer, ardal barbeciw dan-do a sawna preifat. Mae ystafell gwely dwbl ac ystafell dau wely sengl wedi’u lleoli ar y llawr gwaelod gydag ystafell ymolchi ar y llawr cyntaf. Mae’r ystafell gawod ar y llawr gwaelod ochr yn ochr â’r sawna. Ceir ardal eistedd awyr agored ar gyfer mwynhau’r golygfeydd a’r heulwen.
Bwthyn cynllun agored, ffrâm bren, clyd poblogaidd iawn yw Dan y Faen. Mae’n cael ei gynhesu’n drydanol gydag ystafell dau wely ar y llawr gwaelod ac ystafell ddwbl ar y llawr cyntaf. Ceir ystafell gawod ar y llawr gwaelod ac ystafell ymolchi ar y llawr cyntaf. Y tu allan yn yr ardd mae patio gyda barbeciw, ardal eistedd awyr agored a ‘gazebo’ cylchdro sy’n wynebu’r haul neu olygfeydd o’ch dewis. Mae’r ardd gaeedig yn ddiogel i blant chwarae ynddi, tra bo’r oedolion yn ymlacio gyda gwydraid o win pefriog.
Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.
Sorry, unable to load the Maps API.




