Parcio preifat, WiFi, archeby arlein, croeso i gwn.
Tyddyn bach 14 erw, sy’n croesawu cŵn yw Tanyresgair, mewn lleoliad syfrdanol yng nghanol Ceredigion – rhwng arfordir Bae Ceredigion i’r gorllewin a Mynyddoedd y Cambrian i’r dwyrain; a rhwng Aberystwyth i’r gogledd a Llambed i’r de. Mae’r ysgubor garreg 170 oed yn Tanyresgair wedi’i thrawsnewid yn ddau fwthyn hyfryd, cyffyrddus ac eang. Maent yn darparu llety hunanarlwyo moethus i 2 berson gyda dyluniad agored a’r naill â’i gymeriad unigryw ei hun. Maent yn cadw swyn a chymeriad yr ysgubor gerrig wreiddiol, gyda thrawstiau agored, waliau cerrig, lloriau pren a llechen. Mwynhewch: heddwch a thawelwch – dim traffig – ar ddiwedd ffordd fynediad 0.5m o hyd – does dim cymdogion am filltir i’r naill gyfeiriad (ac eithrio DEFAID) – gardd sefydledig, 300m i fyny, felly golygfeydd hardd 360 gradd – dim llygredd golau, sy’n golygu nosau tywyll godidog – ar gyrion rhostir gyda llwybr cerdded at lyn a golygfan – bywyd adar toreithiog gan gynnwys barcutiaid coch a bwncathod yn hedfan uwchben bob dydd.
Mae Bythynnod Tanyresgair yn ganolbwynt delfrydol ar gyfer llawer o anturiaethau cerdded, beicio a gwylio bywyd gwyllt; yn ogystal â bod mewn lleoliad cyfleus i fwynhau’r holl gyfleoedd twristiaeth sydd gan Ceredigion, Bae Ceredigion a Mynyddoedd y Cambrian i’w cynnig. Pethau i’w gwneud: Yn wych ar gyfer cerdded, beicio a gwylio bywyd gwyllt: – crwydro rhannau o Lwybr yr Arfordir a phrofi golygfeydd godidog o Fae Ceredigion – dau lwybr beicio wedi’u arwyddo – Llwybr Ystwyth a Llwybr Rheidol yn agos. Ewch ar daith cwch i wylio dolffiniaid o’r Cei Newydd. Gwyliwch fyrdd o farcutiaid coch yn bwydo yn Nant-yr-Arian. Ymwelwch â gwarchodfeydd natur cyfagos i gael profiad arbennig o wylio adar. Twristiaeth: – trafaeliwch ar Reilffordd Cwm Rheidol i raeadrau Pontarfynach – gyrrwch i ganol Mynyddoedd y Cambrian ac o amgylch cronfeydd Cwm Elan – ymwelwch â’r traethau hyfryd ym Mwnt a Llangrannog – ewch yn ôl mewn amser ym mhentrefi pysgota traddodiadol Aberaeron a Chei Newydd.
Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.
Sorry, unable to load the Maps API.






