Place Categories: Bythynnod Lleoedd i Aros
Mae Troedyrhiw siwrne fer o bentref Pontrhydfendigaid (B4343), i lawr lon darmac. Unwaith y cyrhaeddwch byddwch chi’n teimlo ymhell i ffwrdd o brysurdeb bywyd. Ystyr Troedyrhiw yw ‘troed y bryn’, ac os byddwch yn parhau i fyny’r bryn, byddwch yn dilyn yr Afon Teifi i’w tharddiad yn Llyn Teifi (Pyllau Teifi).
Mae Troedyrhiw yn cysgu pump mewn tair ystafell wely ar y llawr cyntaf. Mae yna ddwy ddwbl ac un ystafell wely sengl.
Mae gan y bwthyn gegin llawn cyfarpar gydag ystafell fwyta ar wahân, ynghyd ag ystafell fyw gyda llawr derw a stôf llosgi coed.
Gwybodaeth defnyddiol
- Darperir dillad gwely a thyweli
- Dewch â’ch tyweli traeth eich hun
- Crud a chadair uchel ar gael (dewch â dillad gwely crud eu hunain)
- Gwres canolog
- WiFi am ddim
- Gwres a thrydan yn gynwysedig
- Darperir coed ar gyfer y stof goed
- Ni chaniateir anifeiliaid anwes
- Dim ysmygu
Loading...
No Records Found
Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.
Maps failed to load
Sorry, unable to load the Maps API.









