Busnes bach teuluol, Cymreig, sy’n darparu llogi pebyll cloch moethus fel llety yn unrhyw le yng Nghymru yw Campio Gwdihŵ Camping.
Dechreuodd y fenter gyffrous hon ym mis Mai 2018, gan ddarparu ar gyfer pen-blwyddi, partïon ieir, cyplau, teuluoedd a phartïon cysgu-dros-nos plant (sleepovers). Mae gan ein cwsmeriaid i gyd anghenion a gofynion gwahanol ac mae pob archeb wedi bod yn hollol wahanol, sydd wedi arwain at adolygiadau ac adborth hyfryd.
Ein hethos yw ‘Aros- yn syml’, a dyma rydym yn ymdrechu i’w ddarparu, fel bod y profiad yn un hollol ddi-straen i chi.
Ar ôl i’r cwsmer benderfynu ar leoliad a dyddiad, byddwn yn troi i fyny, gosod y babell a’i llenwi yn llawn o’n nwyddau cartrefol, moethus. Yna ar ddiwedd yr arhosiad, byddwn yn dod i nôl y babell.
Gellir llogi’r pebyll ar gyfer pob achlysur, gan gynnwys priodasau a gwyliau cerdd, neu ar gyfer dihangfa yn yr ardd – nid oes angen i chi grwydro ymhell i gael ymdeimlad o glampio. Mae’n ddelfrydol ar gyfer unigolion nad ydyn nhw yn or-hoff o wersylla! Gellir mwynhau’r pebyll hefyd ar unrhyw faes gwersylla o amgylch Cymru.
Ni arbedwyd yr un ceiniog er mwyn eu gwneud yn gartref oddi cartref. Boed i chwi eu llogi am noson yn unig neu am gyfnod hwy, bydd bob amser ymdeimlad o gysur i’w gael yn y pebyll hyn.
Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.
Sorry, unable to load the Maps API.