Mae gan Geredigion drysorfa o chwedlau sy’n adrodd straeon am diroedd coll tebyg i Atlantis ac arallfyd Celtaidd, marchogion, tywysogion a chewri, brenhinoedd a thywysogesau a ddrylliwyd ar y môr, môr-forynion, ysbrydion a thylwyth teg, a hen wragedd yn twyllo’r diafol ei hun. Mae rhai o olygfeydd cyfareddol a straeon cofiadwy’r Mabinogi hefyd yn digwydd yng Ngheredigion.
Archwiliwch Ceredigion gyda’r ap ‘Chwedlau’r Gorllewin’.
Mae ap ‘Chwedlau’r Gorllewin’ yn dod â thirwedd chwedlonol Ceredigion yn fyw trwy gyflwyno straeon, gweithgareddau a gwybodaeth i’ch dyfais symudol wrth i chi grwydro’r rhanbarth. Trwy ddefnyddio technoleg lleoli GPS a Beacon i ddangos cynnwys perthnasol i’ch dyfais yn ôl eich lleoliad, mae ‘Chwedlau’r Gorllewin’ yn eich galluogi i ymgysylltu’n llwyr â diwylliant y rhanbarth ac archwilio’r lleoedd sy’n gysylltiedig â 12 chwedl hynod ddiddorol, gan gynnwys Taliesin , Cantre’r Gwaelod a Twm Sion Cati.
Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.
Sorry, unable to load the Maps API.









