Place Categories: Addas i Deulu Am Ddim Beth i Wneud Cerdded Gweithgareddau ac Atyniadau Lleoedd Golygfaol
Mae grŵp o bobl ymroddedig o Bontrhydfendigaid wedi dod at ei gilydd ac wedi ffurfio coetir cymunedol. ‘Coed y Bont’ yw enw’r grŵp cymunedol, enw iawn y coetir yw ‘Coed Dolgoed’ ac mae’n rhan o Goedwig Tywi ac yn eiddo i Gyfoeth Naturiol Cymru. Coetir cymunedol ysbrydoledig sydd yn rhad ac am ddim i’w ddefnyddio gan unrhyw un, ar unrhyw amser, yn adnodd gwych i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd.
Mae’r coetir wedi’i leoli wrth gyfeirnod grid SN6573 ac mae hanner milltir i’r dwyrain o bentref Pontrhydfendigaid tuag at adfeilion Abaty Ystrad Fflur.
Loading...
No Records Found
Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.
Maps failed to load
Sorry, unable to load the Maps API.