Mae’r cwt bugail wedi’i leoli mewn llecyn preifat ar dyddyn bychan yn Llanfihangel-y-Creuddyn. Mae’n wynebu’r de ac mae iddo olygfeydd di-dor ar draws y dyffryn. Ceir yma lawer o deithiau cerdded sy’n ymlwybro heibio i nifer o dafarndai gwych sy’n cynnig bwyd da gan gynnwys tafarn y Half Way Inn yn Pisgah, lle croesewir teuluoedd ac Y Ffarmers clodwiw.
Gall y cwt letya hyd at 2 oedolyn a dau blentyn.
Mae croeso i westeion fwydo’r hwyaid a’r ieir, casglu wyau a chrwydro caeau’r perchnogion. Ceir digon o fannau parcio a lleoedd i’r plant chwilota a chwarae.
Mae llawer o deithiau cerdded diddorol i’w cael o amgylch y pentref, canolfan ferlota wych gyfagos a llwybrau beicio mynydd rhagorol.
Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.
Sorry, unable to load the Maps API.




