Mae Gwyliau Dolau Afon yn fusnes cyfeillgar sy’n cael ei redeg gan ŵr a gwraig, sy’n swatio’n ddwfn yng Nghwm Ystwyth, mewn leoliad tawel ar lan yr afon, ym Mynyddoedd y Cambrian.
Mae Dolau Afon yn cynnig llety hunanarlwyo a maes gwersylla bach gyda 20 llain ar gyfer carafanau teithio.
Mae ein gwersyll yn safle trwyddedig annibynnol bach (1.5 erw) ond yn safle delfrydol. Mae gennym 20 llain gyda 3/5 ohonynt yn lleiniau caled a 14 ohonynt yn lleiniau trydan. Adeiladwyd bloc cawod a thoiled newydd yn 2020 sy’n ategu at ein safle hyfryd. Mae’r safle’n gysgodol, wedi ei amgylchynu gan goed ac yn wynebu tua’r de.
Cynllun agored, arddull stiwdio hunangynhwysol sydd i’n Lodge, sy’n cysgu dau oedolyn, a chanddo ystafell wlyb cerdded i mewn iddi. Mae drysau Ffrengig yn agor allan i’r ardd hardd a heddychlon ar lan yr afon. Mae’r llety wedi’i gynhesu’n ganolog gan stôf llosgi coed.
Mae gan y Bwthyn 4 seren Croeso Cymru. Mae’r Bwthyn hefyd yn gynllun agored a hunangynhwysol, gydag ystafell wely mesanîn sy’n cysgu 2 oedolyn. Mae gan y Bwthyn gegin llawn offer priodol, yn ogystal ag ystafell gawod, stôf llosgi coed a gwres trydan.
Mae’r Bwthyn a’r Lodge yn ddeniadol a chlyd, gyda llenni a deunyddiau hyfryd a phopeth sydd ei angen arnoch ar gyfer arhosiad hamddenol, p’un a yw’n arhosiad byr neu’n arhosiad hwy, ac mae naws groesawgar a chyfeillgar i’r ddau ohonynt.
Mae’r holl eiddo yn agos at yr afon, gyda mynediad trwy’r giât yng nghornel y cae gwersylla – mae’r afon wedi bod yn fan nofio poblogaidd ers cenedlaethau, a chaniateir pysgota o’r glannau. Rydym yn cynnig trwydded gyflenwol i bysgota’r afon yr holl ffordd i’r môr – troelli, abwyd neu blu.
Mae Vernon a Jill wedi bod yn berchen ar Dolau Afon ers 2015 ac wedi ei adfer o eiddo oedd wedi mynd a’i ben iddo, i fod yn fusnes gwyliau croesawgar gwych, wedi’i gynnal a’i gadw i safon uchel. Maent wedi derbyn adolygiadau rhagorol dirifedi gan westeion hapus. Maent wastad yn barod i fynd tu hwnt i’r disgwyl i wneud Dolau Afon yn fan croesawgar, hapus, yn lle i orffwys ac ymlacio, yn ogystal a rhannu perlau cudd yr ardal fendigedig oddi cwmpas, sy’n cynnwys ei statws Awyr Dywyll rhyfeddol.
Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.
Sorry, unable to load the Maps API.