Rydym yn cynhyrchu biltong, sef byrbryd cig eidion wedi’i awyr-sychu. Mae ein rysáit cartref yn defnyddio cynhwysion cywir De Affrica ac o’r herwydd rydym yn falch iawn ein bod wedi derbyn Gwobr Great Taste 2 Seren gan The Guild of Fine Foods.
Ar ôl cael ein magu yn Nheyrnas Eswatini, de Affrica, fe symudon ni i orllewin Cymru dros 10 mlynedd yn ôl ac rydyn ni wedi bod yn gwneud biltong byth ers hynny. Mae ein biltong yn cynnwys bron i 50% o brotein sy’n digwydd yn naturiol, gan greu byrbryd iach a maethlon. Mae’n ddelfrydol i’w fwyta fel rhan o ffordd iach ac egnïol o fyw a gellir ei ddefnyddio hefyd mewn amrywiaeth o ryseitiau fel saladau, cawliau a tsili.
Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.
Sorry, unable to load the Maps API.




