Parcio preifat, croeso i blant, twba poeth, cyfleusterau anabl, WiFi, archebu arlein, croeso i gwn.
Ymwelwch â chartrefi gwyliau gradd 4 a 5 seren yng Nghymru, sy’n ddelfrydol ar gyfer casglu teulu ynghyd, grwpiau ffrindiau mawr a bach. Perffaith ar gyfer cyplau sy’n chwilio am ddihangfa rhamantus, y bydd teuluoedd yn dwli arno ac a addolir gan eich ffrindiau pedair coes.
I aros yn Tynrhyd, does dim rhaid dod â llawer gyda chi! Rydym wedi gofalu am bopeth, er mwyn sicrhau eich bod chi’n cael y gwyliau hunanarlwyo perffaith.
Llety helaeth yng Nghanolbarth Cymru gyda popeth ar eich cyfer, o beiriant golchi llestri i dyweli meddal, ‘does dim angen i chi bacio tegell, cyllell na haearn smwddio. Nid oes angen i chi ddod â chorcsgriw nac agorwr potel hyd yn oed ar gyfer y gwydraid haeddiannol hwnnw o win neu botel o gwrw!
Pan yn sôn am foethusrwydd fforddiadwy, rydyn ni’n gwybod beth ydy be. Ceginau ac ystafelloedd ymolchi helaeth wedi’u haddurno’n wych, a gwelyau mawr, meddal wedi’u cyweirio â lliain cotwm gwyn, ffres.
Teledu Digidol, Netflix, WIFI am ddim, tyweli, rhewgell, oergell, peiriant golchi llestri a cheginau llawn offer safonol.
Mae’r lleoliad yn cynnwys y Tŷ Fferm a’r Ysgubor arobryn ynghanol ystâd breifat 13 erw. Meddyliwch am olygfeydd rhyfeddol, tawel ar draws cymoedd a chopaon Mynyddoedd y Cambrian. Gyda llety chwaethus, hyblyg wedi’i gyfarparu â chyfleusterau modern, mae digonedd o le i gymdeithasu cymaint neu cyn lleied ac y dymunwch.
Mae gan Ysgubor Tynrhyd 3 thŷ oddi mewn iddo! Gallwch:
- Archebu un tŷ a rhannu cyfleusterau’r ystâd, hy Neuadd Fawr, ystafell gemau, twba poeth a’r tiroedd.
- Cael defnydd ecsgliwsif o’r Ysgubor (y 3 thŷ i gyd) a rhannu defnydd o’r tiroedd a’r twba poeth gydag gwesteion y tŷ fferm yn unig.
- Cael ddefnydd ecsgliwsif o Ystâd Tynrhyd yn gyfangwbl gan gynnwys Yr Ysgubor, Tŷ Fferm, a’r holl gyfleusterau ynghyd a 13 erw o dir.
Cynllun Llety
- Tŷ Cambrian: Cysgu 1 – 16 gwestai
- Tŷ Pumlumon: Cysgu 1 – 17 gwestai
- Tŷ Barcud: Cysgu 1 – 5 gwestai
- Tŷ Fferm Tynrhyd: Cysgu 1 – 12 gwestai
Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.
Sorry, unable to load the Maps API.