Ystafell Golchi Mawr a Toiled
Cyfleusterau te a coffi am ddim i bysgotwyr
Ystafell pwyso, microdon a chyfleusterau rhewi
Hyfforddiant am ddim i ddechreuwyr
Llogi rod
Amryw o 'flies'
Croeso i bartion drefnus
Lluniaeth ar gael trwy'r dydd
Mae’r Bysgodfa wedi’i lleoli yn Bontnewydd ger Bronant mewn lleoliad hyfryd cefn gwlad. Tua 6 milltir o Tregaron, 12 milltir o Aberystwyth a 6 milltir o’r traeth yn Llanrhystud. Ar agor trwy’r flwyddyn. Ceir yma dri llyn, i gyd yn byrlymu o frithyll seithliw a brithyll brown grymus o’r safon uchaf, i gyda â phwysau da iawn iddynt, yn ogystal ag, yn arloesol, eogiaid Iwerydd hyd at wyth pwys yr un.
Mae’r llyn pysgota bras yn cynnwys ysgretennod (tench) ac amrywiaeth fawr o gerpynnod (carp), gan gynnwys y cerpyn du. Mae tacl ac abwyd pysgota bras ar gael. Darperir ar gyfer cystadlaethau clwb trwy drefniant. Mae mynediad i bysgotwyr anabl.
Gallwn letya hyd at 6 o bobl ar gyfer gwely a brecwast. Mae pob ystafell wedi’i dodrefnu i safon uchel gan gynnwys teledu lliw, cyfleusterau gwneud te a choffi. Mae pob ystafell yn edrych dros y llynnoedd.
Mae’r ardal yn berffaith ar gyfer cerddwyr a gwylwyr adar – gellir gweld barcutiaid coch yma yn rheolaidd.
Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.
Sorry, unable to load the Maps API.