Sefydlwyd Gemwaith Rhiannon gan Rhiannon, dylunydd gemwaith gyda enw da yn rhyngwladol am ei dehongliadau gwreiddiol ac unigryw o draddodiadau artistig Cymreig a Cheltaidd. Wedi’i sefydlu ym 1971, mae ansawdd gemwaith Cymraeg cain Rhiannon mewn arian, aur ac aur Cymru yn hynod iawn. Dyluniwyd pob darn ‘Rhiannon’ gan Rhiannon a’i wneud â llaw gan y tîm bach yn y gweithdy yng Nghanolfan Rhiannon, ystafell arddangos arbennig o emwaith pwrpasol sy’n cynnig profiad o ddiwylliant Cymreig a Cheltaidd gwreiddiol dan yr un to. Mae’r Ganolfan yng nghanol Tregaron, wedi’i hamgylchynu gan olygfeydd ysblennydd Cors Caron a Mynyddoedd y Cambrian.
Yng Nghanolfan Rhiannon, bydd ymwelwyr yn darganfod Canolfan Aur Cymru Rhiannon, ystafell arddangos gemwaith arbennig a gweithdai arddangos lle gellir gwylio’r gemyddion wrth eu gwaith; Canolfan Dylunio Crefftau Rhiannon sy’n drysorfa o grefftau cain, nwyddau cartref unigryw a chynnyrch lleol blasus.
Ar y llawr cyntaf mae Oriel Rhiannon yn cynnal arddangosfeydd celf rheolaidd sy’n arbenigo mewn artistiaid o Gymru ac artistiaid sy’n byw yng Nghymru.
Mae Amgueddfa Rhiannon – sy’n cynnwys casgliad unigryw o greiriau Celtaidd a gasglwyd gan Rhiannon dros y blynyddoedd gyda rhai o’r eitemau’n dyddio’n ôl i’r cyfnod cyn-Rufeinig – yn cyflwyno esblygiad di-dor o gelf weledol yn y traddodiad Celtaidd, o filoedd o flynyddoedd yn ôl hyd at heddiw; pob un yn cael ei adlewyrchu yng nghynlluniau gemwaith Rhiannon ei hun.
Mae Caffi Hafan yng nghefn y Ganolfan yn darparu ystod eang o de, coffi wedi ei falu’n ffres a chacennau wedi’u pobi gartref – gan gynnwys cacennau cri Cymreig, wrth gwrs – ar gyfer coffi bore bendigedig, paned neu de prynhawn. Yn ogystal, mae gan y caffi fwydlen ginio helaeth, gan gynnwys eu cawl traddodiadol enwog a blasus!
Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.
Sorry, unable to load the Maps API.










