Maes parcio, croeso i blant, archebu arlein.
Dihangwch in safle Glampio heddychlon, cyfeillgar a hynod o glyd yma yng nghefn gwlad Gorllewin Cymru, wedii leoli ar gyrion pentref Cymreig traddodiadol, Llanfihangel-y-Creuddyn. Mae ein pebyll yn glyd, yn lân ac yn gyffyrddus y cyfan sydd ei angen arnoch er mwyn dianc o brysurdeb bywyd i gael seibiant hamddenol.
Ar y safle mae gennym le parcio preifat, toiled a chyfleusterau cawod boeth, cyfleuster cegin sylfaenol, a darperir barbeciw thu allan. Yn y babell, bydd stôf dân bach a dyma fydd ffynhonnell gwres tu mewn ir babell.
Byddwch yn derbyn hamper bach o gynnyrch lleol wrth gyrraedd. Er mwyn gwneud eich arhosiad yn un hwylus ai wneud yn fwy arbennig, cysylltwch â ni gydag unrhyw geisiadau. Megis, gwin lleol ar gyfer achlysur arbennig neu becyn barbeciw wrth y cigyddion lleol, am gost ychwanegol.
Bydd y pebyll wediu lleoli yn y cae, gyda golygfeydd heddychlon o gefn gwlad. Maen daith dwy funud o gerdded ir dafarn Gastro leol sydd wedi cael gwobrau, Y Ffarmers, sydd ag awyrgylch cyfeillgar gyda bwyd cartref rhagorol a chwrw lleol. Maen daith 10 munud yn y car ir dref glan môr leol sef Aberystwyth.
Mae gennym dudalen Facebook ac Instagram. Dilynwch ni am ddiweddariadau ac i weld lluniau or hyn sydd gennym i’w gynnig.
Facebook Glampio Creuddyn Glamping
IG glampio_creuddyn_glamping
Rydym yn hapus iawn i helpu ac i wneud eich ymweliad mor gofiadwy â phosibl.
Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.
Sorry, unable to load the Maps API.