Mae Ynyslas yn rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol Dyfi sydd wedi’i lleoli hanner ffordd rhwng Aberystwyth a Machynlleth.
Lleolir twyni tywod gwych Ynyslas ar ochr ddeheuol ceg yr aber, a rhain yw’r twyni mwyaf yng Ngheredigion. Maent yn dangos holl gyfnodau ffurfiant a thyfiant y twyni, o lannau tywodlyd, i raean â llystyfiant, blaendwyni, twyni symudol a thwyni sefydlog.
Maent yn gartref i boblogaeth gyforiog o degeirianau, mwsogl, llys yr afu, ffwng, pryfed a phryfed cop; llawer ohonynt yn rhywogaethau prin, gyda rhai ohonynt ar gael yn unlle arall ym Mhrydain. Mae’r aber Afon Dyfi yn cynnwys ardaloedd o bwysigrwydd rhyngwladol o safbwynt fflatiau llaid, banciau tywod a morfa heli, ac yn darparu ardaloedd bwydo a chlwydo arbennig i adar dŵr.
Mae’r ganolfan ymwelwyr ar agor o’r Pasg tan ddiwedd Medi. Mae ganddi siop bach a thoiledau ac yn gwerthu diodydd poeth ac oer a byrbrydau.
Mae’r ganolfan ymwelwyr wedi derbyn achrediad Sicrwydd Ansawdd Atyniad i Ymwelwyr gan Croeso Cymru. Dyfernir Nod Sicrwydd Ansawdd Croeso Cymru i atyniadau sydd wedi eu hasesu’n annibynnol yn erbyn safonau cenedlaethol Cynllun Sicrhau Ansawdd Atyniadau Ymwelwyr.
Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.
Sorry, unable to load the Maps API.