Rhwng Mynyddoedd y Cambrian a’r môr, mae Penrhiw Llysieuol yn darparu llety gwely a brecwast hamddenol o fewn lleoliad gwledig mwyaf godidog. Cewch hyd i ni ym mhentref heddychlon Llanafan, 10 milltir / 16km i’r de-ddwyrain o dref glan môr, prifysgol Aberystwyth.
Ffermdy Cymreig bychan o’r 19eg ganrif yw Penrhiw, ar lethr bryn ar gyrion y pentref; mae’n edrych i lawr Cwm Ystwyth tua’r bryniau a’r coedwigoedd tu hwnt. Mae’r perchennog yn feiciwr, gwarbaciwr a cherddwr llwybrau profiadol. Gall awgrymu gweithgareddau ar gyfer pob lefel o brofiad, oedran a ffitrwydd; o’r mynyddoedd i’r môr.
Bydd ymwelwyr yn cael gwelyau cyfforddus a brecwastau iach heb gig. Mae croeso i bawb – hyd yn oed cigysyddion.
Os mai awyr iach, heddwch a thawelwch yw eich dymuniad, mae ein llety gwely a brecwast llysieuol, Penrhiw, yng Ngorllewin Cymru, yn bendant o’ch plesio.
Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.
Sorry, unable to load the Maps API.









