Maes parcio preifat, trwydded alcohol, cinio nos ar gael, croeso i blant, WiFi, archebu arlein.
Mae Gwesty Gwledig Brynarth **** yn swatio o fewn cefn gwlad, hardd godre Mynyddoedd y Cambrian, ymhlith rhai o’r golygfeydd mwyaf syfrdanol Cwm Ystwyth.
Mae’r ffermdy hwn o’r 17eg Ganrif, a’i ysguboriau, wedi’u hadnewyddu’n chwaethus ac yn ddymunol yn unol ac oedran a safle Brynarth mewn hanes, gyda 2 erw o goedwigoedd clychau’r gog wedi’u cynnwys yn ei 8 erw o diroedd.
Mae Brynarth mewn lleoliad delfrydol, yn rhoi mynediad i chi, nid yn unig i atyniadau niferus Ceredigion a’i arfordir hardd, Cymoedd Ystwyth ac Elan; ond hefyd yn gyfleus i chi fwynhau trefi arfordirol prysur Aberystwyth, Aberaeron a Chei Newydd yn hawdd.
Rydym hanner ffordd rhwng trefi Aberystwyth a Llanbedr Pont Steffan ac yn lle delfrydol i aros os ydych yn ymweld â naill ai Prifysgol Aberystwyth neu Brifysgol Llambed – yn wir rydym yn un o hoff fannau aros llawer o rieni myfyrwyr sy’n well ganddynt beidio ag aros yn y dref .
Mae gennym 9 ystafell glyd ar gyfer ein gwesteion, pob un yn llawn cymeriad, 2 ystafell yn y prif ffermdy a 7 ystafell ar draws y cwrt yn yr Hen Laethdy. Mae i bob ystafell: wres ganolog, radio cloc larwm, sychwyr gwallt, cyfleusterau gwneud te a choffi, pethau ymolchi wnaed yng Nghymru a thyweli cotwm yr Aifft. Mae’r ystafelloedd yn cael eu cyweirio bob dydd er mwyn gwneud eich arhosiad mor gyffyrddus â phosibl. Mae WiFi am ddim ar gael ym mhob un o’n hystafelloedd gwely, ac yn y lolfa westeion a’r ystafell fwyta.
Mae brecwast wedi’i gynnwys ym mhris eich ystafell; yr holl fwyd wedi’i goginio’n ffres ar eich cyfer ac rydym yn ymfalchïo mewn cynnig cymaint o gynnyrch ffres, lleol ag y gallwn. Gall ein gwesteion fwynhau eu prydau bwyd yn Ystafell Fwyta’r ffermdy sy’n gynnes a chroesawus.
Yn lolfa’r gwesteion mae’r tanau coed ar yr aelwydydd yn estyn croeso cynnes. Mae’r trawstiau agored a’r hen waliau cerrig yn lloches gyfforddus – beth bynnag fo’r tywydd y tu allan!
Ar gyfer y gyda’r nos, mae bar bach, cysurus, trwyddedig oddi ar y brif lolfa sy’n cynnig ystod dda o gwrw, gwinoedd a gwirodydd.
Gallwch hefyd fwynhau tenis bwrdd, pool a dartiau yn ein hysgubor gemau. Mae yma lolfa deledu gyffyrddus hefyd, gyda theledu lliw mawr a soffas cyfforddus.
Mae’r ardal hon yn baradwys i gerddwyr, yn cynnig nifer o lwybrau a llwybrau ceffylau, ynghyd â llwybrau mwy heriol ar gyfer cerddwyr mwy profiadol, i gyd o fewn cyrraedd i Brynarth.
Gall beicwyr ddilyn llwybrau beicio a chilffyrdd pwrpasol sy’n croesi yn uniongyrchol trwy’r ardal hon a sydd heb draffig trwm ond gyda golygfeydd syfrdanol. Gallwch ymuno â Llwybr Ystwyth hanner milltir o Brynarth. Mae’r llwybr hwn yn addas i deuluoedd – yn ddi-draffig ac yn hamddenol. Mae gennym hefyd storfa ddiogel dan-glo i roi’ch beiciau ynddi dros nos. Yma ym Mrynarth rydym yn hapus i groesawu beicwyr modur; yn ogystal â maes parcio mawr rydym yn cynnig parcio diogel dan do ar gyfer beiciau modur.
Mae Brynarth yn gartref i doreth o fywyd gwyllt, gellir gweld y barcud coch, sydd yn ail-boblogi yn llwyddiannus yn yr ardal hon o Ganolbarth Cymru, yn hedfan drosodd yn rheolaidd. Rydym mewn lleoliad delfrydol ar gyfer ymweld â llawer o Warchodfeydd Natur sy’n cynnig tirweddau a bywyd gwyllt ysblennydd yn eu cynefin naturiol. D’yw Gwarchodfa Natur Cors Ian ond 400 llath oddi wrthym.
Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.
Sorry, unable to load the Maps API.







