Maes parcio, trwydded alcohol, cinio nos ar gael, croeso i blant, cyfleustrau anabl, WiFi, archebu arlein, croeso i gwn
Rydym wedi ein lleoli mewn Lleoliad Unigryw ym Mynyddoedd y Cambrian uwchben Rhaeadrau Pontarfynach (Devil’s Bridge) a dwy funud oddiwrth Rheilffordd Cwm Rheidol arobryn. Gwesty moethus gyda chiniawa cain a mannau anhygoel ar ein stepen drws, megis golygfeydd syfrdanol o Gwm Elan, teithiau cerdded heddychlon ystâd yr Hafod, golygfeydd prydferth o Pumlumon Fawr yn ogystal â bwydo’r barcutiaid yng Nghanolfan Barcud Coch Nant Yr Arian.
Yn cynnig Prydau Cartref Ffres sy’n addas ar gyfer Llysieuwyr a Feganiaid hefyd. Cinio Dydd Sul uchel ei barch gyda’n Cynnyrch Lleol gan Gigyddion Rob Rattery. Staff cyfeillgar a chroesawgar sy’n gweithio’n galed i gynnig y gwasanaeth gorau posibl. Ardal eistedd hyfryd, awyr agored gyda golygfeydd godidog o Gwm Rheidol, yn ogystal â chynnig Te Prynhawn (wedi archebu o flaen llaw y unig), Teisennau, ac ardaloedd Eistedd Cyfforddus wrth dân cynnes a chlyd.
Mae ein Gwesty newydd ei adnewyddu gyda 9 Ystafell Ddwbl Superior, 1 Ystafell Twin Superior, 1 Ystafell Moethus a 2 ‘penthouse’ Moethus. Pob ystafell gyda golygfeydd anhygoel o Gwm Rheidol. Mae pob arhosiad yn cynnwys Brecwast Cymraeg Cartref Llawn gydag amrywiaeth o brydau Llysieuol, Figan a llawer mwy ar ein Bwydlen Brecwast. Rydym hefyd yn cynnwys llawer o becynnau aros gwahanol ar gyfer ein Gwesty. Mwy o wybodaeth i gael ar ein gwefan www.thehafod.co.uk. Gallwch hefyd ymweld â’n tudalen FaceBook “Hafod” neu’n tudalen Instagram “thehafod”.
Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.
Sorry, unable to load the Maps API.