Parcio preifat, archebu arlein.
Mae’r GreenHouse wedi’i gynllunio fel bod dau berson yn medru cael amser heddychlon, hyfryd. Mae i’w ddarganfod ar waelod ein ffordd breifat, dri chwarter milltir o hyd, sy’n darparu’r unig fynediad i’r traeth ar gyfer cerbydau yn y bae hwn. Lleolir tua hanner ffordd rhwng tref prifysgol Aberystwyth a phentref syrffio ac artistaidd y Borth.
Mae gan y bwthyn ardd fach gyda chadeiriau a phwll tân lle gallwch eistedd a gwylio’r haul yn machlud i’r môr cyn i’r sêr ymddangos. Mae llwybr y traeth a’r arfordir ar waelod yr ardd, trwy giât yn wal yr ardd, ac os ydych chi’n cerdded neu’n beicio llwybr yr arfordir, gallwch ddod mewn y ffordd honno. Cofiwch baratoi’n drylwyr ar gyfer pob math o dywydd: mwynhewch stormydd gwefreiddiol, gwyllt; diwrnodau crasboeth ar y traeth; eistedd yn yr ardd gyda llyfr da, gwydraid o win, ysbienddrych, gwylio dolffiniaid, machlud haul ysblennydd, cyfrif sêr gwib düwch y nos neu grwydro’r fferm. O’r caeau uchaf gellir gweld ymhell ar draws Pumlumon gyfan ar y naill law ac thuag at Eryri ar y llall.
Nid oes gan y bwthyn fynediad i’r rhyngrwyd ac mae’r signal ffôn yn amrywio o fod yn anghyson i ddim byd o gwbl felly bydd yn hawdd iawn i chi adael y byd a’r betws am gyfnod o heddwch.
Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.
Sorry, unable to load the Maps API.













