Wigwam® Holidays Aberystwyth
Mae glampio yn Aberystwyth yn ffordd wych o brofi harddwch rhyfeddol a chyfoeth y gweithgareddau a gynigir gan yr ardal ysblennydd hon. Pan fyddwch chi’n archebu’ch egwyl glampio nesaf yn lleoliad hyfryd Wigwam® Holidays Aberystwyth, fydd hi fawr o dro cyn i chi ymlacio ac ymsuddo i’r llonyddwch a’r heddwch er mwyn gallu gwneud y gorau o’r lle hynod arbennig yma.
Saith milltir yn unig o dref brifysgol Aberystwyth a’r arfordir syfrdanol a dim ond pedair milltir o anialdiroedd a rhyfeddodau Mynyddoedd y Cambrian -Wigwam® Holidays Aberystwyth yw’r lle berffaith ar gyfer crwydro ac archwilio’r ardal.
Pethau i’w gwneud tra’n glampio yn Aberystwyth
Ymlaciwch ar y safle glampio arbennig hwn. Mae Gwyliau Wigwam® Aberystwyth wedi ei leoli ar ddôl dawel ar ochr bryn, ar fferm deuluol. Mae gan y safle olygfeydd di-dor ar draws Cwm Rheidol, Bae Ceredigion, ac i’r gogledd tuag at Cadair Idris a mawredd Eryri.
Golygfeydd gallwch ei gwerthfawrogi o’ch ardal fwyta breifat eich hun y tu allan i’ch pod glampio hardd, neu, hyd yn oed gwell – o dwba poeth moethus wedi gynhesu gan dân coed.
Ymweld ag Aberystwyth
Fel tref brifysgol, byddech chi’n disgwyl darganfod amrywiaeth o dafarndai a bwytai gwych a byddech chi’n llygad eich lle. Yma gallwch fwynhau prydau blasus sy’n gweddu at chwaeth pawb, ac oherwydd ei agosrwydd at y môr, mae ffocws cryf ar fwyd môr lleol. Ar wahân i fwyta ac yfed mae yma lawer i’ch diddori. Dewch i werthfawrogi’r golygfeydd trwy fynd am dro ar hyd glan y môr, neu ddarganfod bersbectif hollol wahanol trwy deithio ar Reilffordd Y Graig, Aberystwyth. I ddysgu mwy am yr hanes lleol a chenedlaethol ymwelwch a Llyfrgell Genedlaethol Cymru neu Amgueddfa Ceredigion – y ddau yn lle gwych i dreulio awr neu ddwy a chamu’n ôl mewn amser.
Rhaeadrau Pontarfynach (Devil’s Bridge)
Mae’r atyniad ymwelwyr byd-enwog hwn i’w ddarganfod yn ddwfn yng nghanol Mynyddoedd y Cambrian. Mor syfrdanol o brydferth, mae’n hawdd gweld sut cafodd Wordsworth ei ysbrydoli i ysgrifennu y gerdd ‘Torrent at Devil’s Bridge’. Mae dwy daith gerdded yn eich tywys trwy’r ardal, gan groesi pontydd ac ar hyd llwybrau natur.
Rheilffordd Cwm Rheidol
Nid ar gyfer selogion rheilffyrdd yn unig! Mae’r rheilffordd yn teithio trwy 12 milltir o gefn gwlad Cymru felly yn ffordd wych o weld ac edmygu’r golygfeydd hyfryd. Mae’r rheilffordd yn eich tywys trwy ardaloedd lle gallwch chi weld adar ysglyfaethus ac amrywiaeth o fywyd gwyllt ac yn aml mae yna deithiau cerdded hardd y gallwch eu mwynhau yn y gorsafoedd. Gynigir gweithgareddau eraill hefyd gan gynnwys teithio ar drenau stêm a adeiladwyd nôl yn y 1920au a phrofiadau gyrru trên yn ystod misoedd yr haf.
Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.
Sorry, unable to load the Maps API.



















