Mae Hafod yn adnabyddus yn bennaf am ei gysylltiad ag unigolyn ysbrydoledig, Thomas Johnes, a oedd yn berchen ar yr ystâd rhwng 1780 a 1816. Yn y cyfnod hwn roedd taith o amgylch golygfeydd ucheldir gwyllt a hynafiaethau Cymru yn ffasiynol ymhlith y dosbarthiadau hamdden, a gwnaeth Johnes yr Hafod yn gyrchfan hanfodol i’r twristiaid cynnar hyn. Fe luniodd y dirwedd oedd eisoes yn ysblennydd yn yr arddull ddarluniaidd Pictiwrésg, gosododd deithiau cerdded i’w gwneud yn hygyrch, adeiladu pontydd, gerddi, bythynnod a fferm newydd (model farm), cododd dŷ newydd o ymddangosiad Rhamantaidd, ac, i ddarparu ar gyfer ymwelwyr, adeiladodd yr Hafod Arms ym Mhontarfynach gerllaw (a oedd ar y pryd yn rhan o ystâd Hafod).
Er bod tŷ Johnes wedi diflannu, erys elfennau naturiol y dirwedd – golygfeydd afon, coetir, rhaeadrau, creigiau caregog – ac mae’r teithiau cerdded hanesyddol a nodweddion eraill yn cael eu hadfer gan Cyfoeth Naturiol Cymru, mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Hafod.
Mae Hafod wastad ar agor i’r cyhoedd, yn rhad ac am ddim, er y gall gwaith coedwigaeth neu adfer gyfyngu ar fynediad weithiau. Mae’r llwybrau cerdded yn cychwyn yn y maes parcio ger yr eglwys (ar y B 4574), lle mae taflen am ddim ar gael, ac mae rhaglen o deithiau cerdded tywysedig yn ystod y flwyddyn hefyd.
NEWYDD: Mae Bwthyn Hawthorn bellach ar gael i’w archebu. Gweler y wefan am fanylion.
Llwybrau Cerdded wedi harwyddo yr Hafod
Mae Prosiect yr Hafod yn adfer teithiau cerdded hanesyddol trwy olygfeydd syfrdanol yr hen ystâd hon. Mae toreth o raeadrau, bywyd gwyllt, a hen goed rhyfeddol i’w gweld.
Ceir yma dri llwybr cerdded sy’n amrywio o ran hyd a graddfa ac sydd wedi’u harwyddo o’r maes parcio. :
Taith Cofgolofn Bedford: 1.6 km. Hawdd ond gydag un darn byr serth. Yn aros uwchben y dyffryn, gyda golygfeydd da dros yr ystâd.
Taith Gerdded Pont Alpaidd: 3.6 km, Cymedrol. Yn ymweld â rhaeadr enwog Peiran, caeau wrth ochr Afon Ystwyth, y Bont Alpaidd wedi’i hadfer, a’r parcdir o amgylch yr hen blasty a’r fferm gartref.
Rhodfa’r Bonheddwr: 3.2 km (ynghyd â 2.5 km, i ac o’r maes parcio). Anodd. Llwybr newydd ei adfer yn cychwyn wrth y Bont Alpaidd ac yn ymweld â rhaeadrau, ceunant Nant Gau, llwyni o ffawydd hynafol, pont wladaidd, a chaeau hyd lan yr afon. Gwych ar gyfer clychau’r gog yn y gwanwyn.
Mae pob taith gerdded yn cychwyn yn y maes parcio ger Eglwys yr Hafod ar y B4574; cyf grid. SN768737. Taflen am ddim ar gael yn y maes parcio.
Nodir gall y tir fod yn anwastad neu lithrig gyda ochrau serth annisgwyl ar bob llwybr, a chynghorir gwisgo esgidiau addas.
Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.
Sorry, unable to load the Maps API.