Harper a Bee yw cartref ein mêl amrwd Blodau Gwyllt Cymreig a gofal croen naturiol. Yn swatio yng ngodre Mynyddoedd y Cambrian, mae ein gwenyn mêl yn chwilota’n brysur yng nghefn gwlad gwyllt Cymru. Mae ein mêl yn amrwd, heb ei basteureiddio ac nid yw’n cael ei or-hidlo, gan adael yr holl ddaioni megis paill, ensymau, mwynau a fitaminau oddi mewn iddo, yn union fel mae’r gwenyn yn ei hoffi. Yn llawn gwrthocsidyddion, priodweddau gwrthfacterol, gwrthffyngol a gwrthlidiol mae mêl wedi cael ei ddefnyddio ers miloedd o flynyddoedd mewn bwyd a meddygaeth.
Nid mêl yn unig mae gwenyn yn ei wneud. Yma yn Harper and Bee, mae ein gwenyn hefyd yn gwneud cwyr ac yn casglu paill a phropolis o goed a blodau. Rydym yn defnyddio’r mêl, cŵyr gwenyn a’r propolis ynghyd ag ychydig o hud y blodau ar ffurf hufen botanegol ac olewau i greu ein cynhyrchion gofal croen 100% naturiol, pob un wedi’i grefftio â llaw gyda chariad mewn sypiau bach. Bydd ein hamrywiaeth o gynhyrchion o fudd i’r meddwl, y corff a’r enaid. Un o gynhwysion hudol natur, fe ychwanegir mêl at ein holl gynhyrchion ac mae ganddo fuddion anhygoel i wella creithiau, llyfnu arlliwiau’r croen, trin croen problemus, adnewyddu celloedd y croen a lleihau llid, a thrwy hyn gyflymu proses gwella’r croen. Mae mêl hefyd yn humectant, sy’n golygu ei fod yn cloi lleithder mewn, gan adael y croen yn iach ac wedi’i hydradu.
Mae cŵyr gwenyn yn gynhwysyn gwych arall sy’n falm i’r croen. Mae’n meddalu ac yn gwella croen ac mae ganddo nodweddion gwrthfacterol a gwrthlidiol. Mae’n lleithio ac yn amddiffyn y croen heb dagu’r mandyllau, gan adael y croen yn teimlo’n sidanaidd feddal. Canfuwyd bod cŵyr gwenyn yn llawn Fitamin A, yn cefnogi ail dyfiant celloedd ac iechyd y croen. Rydym hefyd yn defnyddio ein cŵyr gwenyn i wneud canhwyllau. Mae’n lân ac yn llosgi’n araf. Mae cŵyr gwenyn yn tynnu tocsinau o’r atmosffer ac yn puro’r aer wrth iddynt losgi.
Yn ychwanegol, cesglir propolis gan ein gwenyn mêl. Resin coeden yw Propolis, sy’n cynnwys llwyth o wrthocsidyddion a sydd yn rymus iawn pan gaiff ei ddefnyddio yn ein cynnyrch. Mae’n wych ar gyfer gwella, amddiffyn a maethu’r croen.
Mae gennym amrywiaeth o hufenau ac elïau mêl a chwyr gwenyn, yn sebonau a balmau wedi’u gwneud â llaw ynghyd a chanhwyllau a deunydd lapio. Pob un yn ddiblastig ac yn rhydd o greulondeb. 100% naturiol.
Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.
Sorry, unable to load the Maps API.











