Rydym yn cynhyrchu cyffeithiau cartref, mewn sypiau bach ynghanol golygfeydd godidog Mynyddoedd y Cambrian. Mae pob un o’n jariau yn dod â Llwy Garu Gymreig fach ynghlwm. Mae 3 o’n jamiau yn enillwyr Gwobrau Great Taste. Dyfarnwyd 1 seren aur i bob un o’n Very Berry Jam a Gellyg ,a’n Jam Eirin ac Afal, tra dyfarnwyd 2 seren aur i’n Jam Mafon. Gellir personoli ein labeli fel cyffyrddiad bach arbennig ychwanegol, gan eu gwneud yn addas ar gyfer penblwyddi, anrhegion corfforaethol, ffafrau priodas neu unrhyw achlysur y gallwch chi feddwl amdano! Mae nifer o’n cwsmeriaid yn berchnogion bythynnod gwyliau, ac yn defnyddio ein jariau yn eu basgedi croeso. Gallwch roi eich enw busnes arnynt, neu neges groesawgar ar gyfer eich gwesteion.
Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.
Sorry, unable to load the Maps API.











