Parcio preifat
Llety hunanarlwyo 4 seren yng nghanol Canolbarth Cymru
Byngalo hunanarlwyo modern 4 seren yw Maes Gylfinir gyda lle i ddau berson.
Mae’r byngalo yn sefyll ar ei dir ei hun, ynghanol lawntiau, gwelyau blodau a choed aeddfed. Mae Maes Gylfinir mewn lleoliad delfrydol ar gyfer gwylio adar, cerdded, beicio a chrwydro, wedi ei leoli ym mhentref bach Ystrad Meurig, 13 milltir i’r de-ddwyrain o Aberystwyth, yng nghanol gwlad y Barcud Coch.
Mae yna wres canolog yn eich byngalo gwyliau gyda rheiddiaduron a reolir gan thermostat, y gellir eu haddasu i’ch lefel cysur eich hun. Mae twymwr trydan yn darparu dŵr poeth ar gyfer y gegin a’r ystafell ymolchi. Ceir baddon a chawod drydan yn yr ystafell ymolchi newydd hon; mae’r gawod yn annibynnol o’r dŵr poeth, felly gallwch gael cawod mor aml ag y dymunwch heb ddisbyddu’r cyflenwad dŵr poeth.
Mae gan yr ystafell wely a’r lolfa enfawr garpedi cyffyrddus tra bod gan yr ystafell ymolchi, y cyntedd, y gegin a’r ystafell frecwast loriau finyl braf. Darperir teledu a recordydd fideo digidol i’r lolfa. Mae ffenestr yr ystafell wely a drws patio’r lolfa yn wynebu tua’r dwyrain ar draws y caeau tuag at Mynyddoedd y Cambrian, tra bod y gegin, sydd a phob adnodd, a’r ystafell frecwast yn wynebu tua’r gorllewin ar draws yr ardd, sydd bob amser yn llawn adar.
Y Lleoliad
Lleolir Maes Gylfinir ym mhentref bach Ystrad Meurig, ar ffordd y B4340, 13 milltir i’r de-ddwyrain o Aberystwyth. Cliciwch yma am fap a chyfarwyddiadau
Mae gan y byngalo ei ddreif ei hun, 130 llath o hyd, ac mae wedi’i leoli mewn gardd hyfryd ar gyfer eich defnydd a’ch mwynhad. Mae’r ardd helaeth yn lle delfrydol i wylio a thynnu lluniau adar, neu jyst i ymlacio.
Mae giât yr ardd yn agor i lôn breifat sy’n rhedeg i lawr at gornel gogleddol 2000 o erwau, Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron – ond 200 llath i ffwrdd. Mae yna deithiau cerdded ysblennydd o giât yr ardd, ac mae bywyd gwyllt yr ardal yn odidog – mae Maes Gylfinir yn nghanol gwlad y Barcud Coch.
Wedi’i amgylchynu gan gaeau agored, mae Maes Gylfinir ddwy filltir i’r gorllewin o Fynyddoedd y Cambrian ac o fewn deng milltir i gronfeydd dŵr prydferth Cwm Elan.
Mae gwarchodfa RSPB Ynys Hir a’r warchodfa Gweilch newydd o fewn taith awr mewn car i’r gogledd, tra bod gwarchodfa RSPB Dinas, ar Llyn Brianne hardd, 12 milltir i’r de.
Bum milltir i’r gogledd o Aberystwyth mae traethau tywodlyd Borth a gwarchodfa RSPB Ynyslas, ar aber yr Afon Dyfi.
I archebu lle neu ymholi, ffoniwch 01974 831471.
Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.
Sorry, unable to load the Maps API.
