Croeso i Ddolydd Tegeirian! Rydym yn gyrchfan newydd yng Ngorllewin Cymru lle mae glampio, bwyd da a choginio cartref yn cwrdd â’r byd naturiol. Dechreuwyd menter pum mlynedd i wella gwerth bywyd gwyllt ein fferm fach 25 erw, tra’n darparu cyfleoedd i adfywio gwyliau awyr agored a seibiannau byr. Rydym yn cynnig cuddfannau glampio i gyplau mewn bwthyn, yurt a glampavan yng nghalon Ceredigion.
Wedi’i leoli ger Tregaron rhwng Mynyddoedd y Cambrian a Bae Ceredigion, mae Dolydd Tegeirian yn fan lle mae’n ymddangos bod amser yn symud yn araf, y prif beth sy’n newid yw pasio’r tymhorau a mae straen byw trefol ymhell i ffwrdd.
Dewch i aros yn “Tawny Cottage”, “Red Kite Yurt” neu “Goldfinch Glampavan” i archwilio ein cornel hyfryd yng Nghymru a darganfod sut yr ydym yn ceisio rhoi cymorth i fywyd gwyllt mewn cysylltiad â Coed Cadw ac Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru.
Mwynhewch grwydr drwy’n dolydd a chwilio am flodau gwyllt a pryfed, gorffwyswch ychydig yn “Southern Bottoms” a gwyliwch barcutiaid coch a bwncath yn esgyn uwchben a clochder y cerrig yn gwibio trwy’r eithin, neu gwylio’r haul yn mynd i lawr yng Nghors Caron Fach a bod yn ddigon ffodus i weld tylluan ysgubor yn gleidio drwy’r cyfnos.
Fel arall, dim ond dadflino a mwynhau byw yn yr awyr agored gymaint neu gyn lleied ag y dymunwch wrth fwyta rai o’r cynnyrch lleol gorau y gall Cymru ei gynnig.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu i Ddolydd Tegeirian.
Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.
Sorry, unable to load the Maps API.











