Croeso i Erwbarfe
Rydym ni, Bryn a Priscilla, ynghyd â’n meibion Harri a Steffan yn estyn croeso cynnes ichi i’n parc carafanau a gwersylla hardd a thawel, ychydig y tu allan i Pontarfynach, gyda’i rhaeadrau byd-enwog, ym mynyddoedd hardd y Cambrian yng Nghanolbarth Cymru.
Yn swatio mewn dôl gysgodol, rydym yn barc teuluol, a sefydlwyd ym 1966. Mewn lleoliad delfrydol ar gyfer archwilio Pumlumon ac arfordir Ceredigion, mae’r ardal yn berffaith ar gyfer beicio mynydd, cerdded a gwylio adar, gyda’r traeth ond ugain munud lawr y lôn. Mae’r barcud coch enwog i’w gweld yn aml yn hedfan dros y safle!
Rydym yn ymfalchïo mewn darparu gwyliau bythgofiadwy i’n gwesteion, mewn awyrgylch cyfeillgar, hamddenol. Mae llawer o’n gwesteion wedi bod gyda ni ers y cychwyn gyntaf (dros 50 mlynedd yn ôl!) ac nawr mae trydedd cenhedlaeth o’r teulu yn tyfu i fyny ar y parc.
Mae gennym leiniau cartrefi gwyliau gyda digon o ofod rhyngddynt; gallwch brynu carafanau newydd neu gartrefi ail-law o’r safon uchaf. Mae’r lleiniau wedi’u hadeiladu o’r newydd, pob un â’i le parcio a phatio ei hun. Mae’r parc teithiol a gwersylla yn heddychlon, gyda digon o le a nifer o fannau gwyrdd ar gyfer ymlacio neu ar gyfer gêm o rownderi! Mae yma doiled a bloc cawod newydd sbon, gydag ystafelloedd newid teulu, sychwyr gwallt ac ardal golchi. Gellir gosod carafán deithio dros nos neu ar lain tymhorol.
Os ydych chi’n caru gwersylla ond yn dymuno rhywbeth ychydig mwy moethus, beth am roi cynnig ar ein Wigwam wedi’i gwresogi! Gall gysgu hyd at 5 o bobl, mae iddi ei chegin ei hun ac ardal barbeciw wedi’i ddecio. Perffaith ar gyfer syllu ar y sêr gyda gwydraid o win!
Ar y parc fe geir golchdy, man chwarae i blant, a siop y parc sy’n diwallu’r holl anghenion ar gyfer eich arhosiad. Beth am roi cynnig ar ein hwyau a’n ham fferm ein hunain tra bo’ chi yma? Mae ein moch bywyd Sir Gaerloyw pedigri i’w gweld ar y parc!
Edrychwn ymlaen i’ch croesawu i Erwbarfe!
Erwbarfe Farm Caravan Park
Devils Bridge
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3JR
Ffôn: 01970 890 358
Symudol: 07970 103 677
Ebost: [email protected]
Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.
Sorry, unable to load the Maps API.