Mae THE WOODLANDS yn barc carafanau a gwersylla teuluol, wedi’i sefydlu er 1962, a’i leoli 300 llath yn unig o raeadrau enwog Pontarfynach a’u llwybrau natur. Mae’r parc wedi’i rannu’n ddwy ardal. Prif nodweddion y ddwy yw- bod pob carafán ar ei llain ei hun gyda digon o le rhyngddynt, yr awyrgylch heddychlon a’r mannau agored y mae’r carafannau wedi’u lleoli o’u cwmpas.
Yn ogystal, mae terasau bach gan rai o’r carafannau. Mae ffordd darmac yn gwasanaethu’r mwyafrif o leiniau ac mae rhan fwyaf o’r parc wedi’i oleuo yn y nos er mwyn diogelwch a gwelededd.
Mae’r safle teithiol yn dawel ac yn hyfryd, arwahân i’r un carafannau sefydlog. Mae ganddo leiniau tir caled gwastad a chaeau glaswelltog. Mae cysylltiadau trydanol a phwyntiau teledu ar gael os oes angen.
Gellir lleoli carafannau a phebyll gyda’i gilydd os dymunir a mae lle parcio i’r car wrth ochr eich uned. Mae’r bloc toiledau yn fodern gyda chawodydd a sychwyr gwallt di-dal.
Ar gyfer plant mae yma ffrâm ddringo, sleid fawr, siglenni, si-so, tenis bwrdd a llawer o le i redeg o gwmpas. Mae’r fferm 400 erw sy’n ffinio â’r Parc Carafannau yn cynnig teithiau cerdded dymunol gyda golygfeydd hyfryd.
Mae siop y gwersyll yn gwerthu nwyddau, anrhegion, nwy a phapurau newydd, a mae ystafell de yno hefyd.
Caniateir cŵn ar dennyn. Mae dau ffôn cyhoeddus. Gofynnwn i wersyllwyr ymdawelu ar ôl 10.30pm.
Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.
Sorry, unable to load the Maps API.