Agorodd Glampio Brynllwyd ar gyfer gwesteion ar 1.8.18. Saif ar gyrion Pontarfynach ynghanol 6 erw o dir sy’n cynnwys llyn. Mae gennym un pod moethus sy’n darparu ar gyfer hyd at 5 pump o bobl. Mae ganddo ystafell wely gyda gwely dwbl a gwely sengl, tra yn y lolfa, gall gwely soffa gysgu 2. Mae’r pod yn gwbl ensuite ac mae ganddo hefyd gegin llawn offer sy’n cynnwys hob, popty, oergell, microdon, tegell a thostiwr . Yn naturiol, darperir yr holl ddillad gwely a thyweli ar gyfer ein gwesteion. Yn ogystal, trwy archebu’r pod, darperir twba poeth ar gyfer diben gwesteion y pod yn unig. Mae yna hefyd le-tân mawr y gellir ei ddefnyddio ar gyfer barbeciw! Darperir pecyn croeso o goed, coed tân a siarcol.
Mae yna groeso i ymwelwyr ddod a’i ceffylau gyda hwy a cânt ddefnyddio’r cae ffrynt fel padog (codir ffi ychwanegol o £ 30 / nos / ceffyl /). Rydym yn cydweithio â marchogion lleol fydd yn reidio allan gyda’n gwesteion er mwyn eu cynorthwyo i ddod o hyd i’r reidiau lleol sydd ar gael.
Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.
Sorry, unable to load the Maps API.