Chwyth y chwiban a hisian y stêm – a ffwrdd a chi! Eisteddwch yn ôl, ymlaciwch a gadewch inni fynd â chi ar daith nôl i’r gorffennol trwy rai o olygfeydd mwyaf ysblennydd Cymru.
Teithio ar Reilffordd Cwm Rheidol yw’r ffordd orau i edmygu prydferthwch Cwm Rheidol. Wedi’i agor ym 1902, mae’r rheilffordd wedi bod yn swyno teithwyr hen ac ifanc ers dros ganrif.
O’ch cerbyd cysurus gwyliwch y golygfeydd hardd yn mynd heibio. Rhyfeddwch ar amrywiaeth cefn gwlad wrth i chi deithio trwy gaeau agored eang, coetir a mynyddoedd garw, wrth i’r lein droelli a throi tra’n glynu’n dynn i’r llethr. Gwrandewch ar sŵn trên fach stêm yn gweithio’n galed i ddringo’r 700 troedfedd (200m) ar y 11 ¾ milltir o Aberystwyth i Bontarfynach.
Mae adar ysglyfaethus fel y Barcud Coch a Bwncathod i’w gweld yn codi i’r entrychion yn rheolaidd uwchlaw’r cwm a gall pawb fwynhau’r golygfeydd godidog.
Am fwy o wybodaeth, a phrisiau cyfredol, gweler ein gwefan www.rheidolrailway.co.uk neu ffonio 01970 625819.
Llun: John R Jones
Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.
Sorry, unable to load the Maps API.