Cefais fy ngeni yn Leeds, Gorllewin Swydd Efrog, ond symudais i Aberystwyth, Gorllewin Cymru ym 1992. Ar hyn o bryd rwy’n byw ac yn gweithio yng Nghymffynnon, pentref bach sy’n swatio ar odre Mynyddoedd y Cambrian yng Ngheredigion, Canolbarth Cymru.
Rwyf wedi bod yn gweithio fel artist llawrydd a gwniadwraig hunan-ddysgedig o dan yr enw ‘The Accidental Up-cyclist’ ers 2007. Byddaf yn canolbwyntio’n bennaf ar decstilau wedi’u hailgylchu. Rwyf yn chwiliwr ac achubwr popeth ffabrig ac yn ceisio arbed dillad a tecstilau dianghenraid rhag diweddu yn y safleoedd tirlenwi. Rwy’n rhoi bywyd newydd i bob eitem trwy ailwampio ac ail-greu’n greadigol, a’u uwchgylchu yn ddarnau crand eco unigryw. Yn 2009 crëwyd y labeli dillad uwchgylchu ‘Kaotic Kittus’ a ‘Guto the Whippet’, ynghyd â hwyluso nifer o weithdai uwchgylchu creadigol.
Ar hyn o bryd rwyf yn canolbwyntio’n fwy ar greu ac arddangos fy ngwaith celf.
Ym mis Gorffennaf 2019 derbyniais radd BA Celf Gain (Anrhydedd Dosbarth Cyntaf) o Brifysgol Aberystwyth, ble rydwyf nawr yn astudio MA rhan amser mewn Celf Gain.
Ffotograffiaeth a gwneud printiau sydd yn mynd am bryd yn bennaf, yn aml byddaf yn cyfuno’r ddau a’i gilydd a chyflwyno cyfryngau eraill i greu printiau a collage hybrid unigryw. Mae archwiliadau mwy diweddar wedi fy arwain at Cyanotype, sef proses gwneud printiau ffotograffig hanesyddol ond gyda thro cyfoes alcemegol, ynghyd ag argraffu eco botanegol, cyfryngau cymysg a chwyr llosgliw.
Daw fy ysbrydoliaeth o’r byd naturiol, coetiroedd, tirweddau ac anifeiliaid. Rwyf hefyd wedi fy swyno gan y cyffredin, y patrymau, y gweadau a’r rhinweddau tonyddol sydd o’n cwmpas, yn aml yn ail-greu’r hyn sy’n cael ei ystyried yn eithaf undonog a chyffredin yn rhywbeth unigryw a diddorol iawn.
Mae fy ngwaith yn bendant yn cael ei yrru gan chwilfrydedd a bywiogrwydd cynhenid; arbrofi gyda’r prosesau eu hunain ac archwilio yn fanylach gwead, cyfansoddiad, haenu, haniaeth; a’r rhyngweithio amrywiol rhwng ffotograffiaeth a gwneud printiau.
Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.
Sorry, unable to load the Maps API.





