Y bwriad yw creu dyluniadau, paentiadau a nwyddau syn amlygu harddwch cefn gwlad Cymru. Rwyf yn aml yn rhyfeddu ar sut y maer siapau, patrymau ac yn enwedig y lliwiau rwyn gweld om cwmpas yn gallu cael eu hadlewyrchu mewn dyluniadau gwahanol.
Mae lliw yn bwysig iawn i mi. Wrth edrych ar y wlad rwyn gweld pob math o liwiau gwahanol ac rwyn pwysleisio hyn yn fy ngwaith i ddangos hudoliaeth y tirlun.
Rwyn gwerthu printiau, paentiadau gwreiddiol a thecstilau ar fy siop Etsy. Byddaf hefyd yn cymryd comisiynau personol o ffermydd, tai a thirluniau syn bwysig i chi. Cyffrous iawn yw gweld neges wrth gwsmer sydd eisiau archebu comisiwn personol a gweithio ganddynt i gyflawni ei dymuniad.
Ar hyn o bryd rwyn brysur yn dylunio a chreu da llaw fy nghasgliad cyntaf o ddillad ffasiynol.
Y cam nesaf fydd sefydlu cwmni a gwefan fy hunan yn gwerthu’r rhain a mwy.
Mae 2021 am fod yn flwyddyn gyffroes iawn im musnes Sara Lleucu. Cymerwch olwg ar yr hyn sydd gennyf ar Facebook https://www.facebook.com/saralleucu
Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.
Sorry, unable to load the Maps API.









