Lle daw hanes, myth a chwedl ynghyd i gynnig diwrnod llawn antur i’r teulu cyfan!
Wedi’i leoli ym mynyddoedd dramatig y Cambrian, nid diwrnod allan arferol sydd yn eich disgwyl ym Mhrofiad y Mynydd Arian. Ceir yma deithiau tywys …
Bywyd Mwynwr: Mae’r daith tywys hon yn eich arwain trwy leoliad gwreiddiol a phrin ein Mwynglawdd Arian Plwm 250+ oed, uwchben ac o dan y ddaear gyda mynediad arbennig i’r Malwr Mwyn. Darganfyddwch ffeithiau hynod a diddorol am fywyd mwyngloddio yn yr oes a fu trwy lygaid mwynwr ac archwiliwch chwedlau Cymru trwy ein profiadau theatrig:
Chwedl y Ddraig, Hynt y Marchog: Antur gyffrous i geisio darganfod Grotty, draig gyfrinachol a swil y Mynydd Arian. Dilynwch y cliwiau, craciwch y codau i weld allwch chi ddod o hyd i’r creadur cyfeillgar hwn! Mae’r profiad hwn, dan arweiniad actor, yn berffaith ar gyfer fforwyr iau hyd at 8 oed, ac yn antur doniol i’r teulu cyfan!
Y Ceudwll Du: Daw chwedlau hynafol, llên gwerin lleol a hanes erchyll yn fyw yn yr antur danddaearol wefreiddiol hon! Disgynnwch i dywyllwch Y Ceudwll Du a darganfyddwch hanes tywyll ac amheus Canolbarth Cymru, o’r amodau mwyngloddio enbyd i’r creaduriaid dychrynllyd a hollol frawychus fu’n cerdded y tir hynafol hwn. Ar gyfer plant dros 10 oed.
Mae Labordy Amser yn cynnig sioe ryngweithiol ar gyfer y teulu cyfan, yn tyrchu’n ddwfn i’r ffeithiau rhyfedd a’r chwedlau ffiaidd sy’n gysylltiedig â’r mwynglawdd arian unigryw hwn.
Yn ogystal a’r digwyddiadau dramatig, mae yma lawer mwy i’w gynnig. Darganfyddwch ein Amgueddfa Mwyngloddio, dilynwch Lwybr Y Mwynwr hynod ddiddorol, rhowch ryddid i’r dychymyg yng Nghoed Woo Hoo, padellu am emau, adeiladu ffau, cloddio am ffosiliau a llawer mwy. Felly peidiwch ac oedi- dewch i archwilio!
Nodyn: Dylid gwisgo esgidiau addas Mae croeso i gŵn ar dennyn ar atyniadau yr arwyneb.
Gyda siop Anrhegion a Chaffi. golygfeydd mynyddig hyfryd, mae’n werth ymweld â’r Mynydd Arian.
Ar agor gydol y flwyddyn, mae gan Profiad Y Mynydd Arian hefyd ystod eang o ddigwyddiadau arbennig gan gynnwys Mynydd Dychryn/Terror Mountain, Ymchwiliadau Paranormal Investigations a’r Nadolig.
Ewch i’n gwefan i gael mwy o wybodaeth: www.silvermountainexperience.co.uk
Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.
Sorry, unable to load the Maps API.