Place Categories: Bwyta ac Yfed Bwytai Tafarndai
Mae Tafarn y Maes yn dafarn fwyta wledig sy’n gweini bwyd ffres o safon mewn lleoliad cyfoes hamddenol.
Gallwn ddarparu ar eich cyfer beth bynnag fo’r tywydd! Tu mewn mae gennym far modern a bwyty clyd gyda thân agored a ‘snug’ bach, gellir ei archebu’n breifat. Ar gyfer diwrnodau heulog mae ein ‘gazebo’ pren yn cynnig ciniawa lled-allanol gyda golygfa hyfryd o Gwm Rheidol.
Mae ein bwydlen yn canolbwyntio ar gynhwysion ffres a lleol, gan gynnig cinio a la carte, nosweithiau arbennig ynghyd â pizza ffwrn goed ar nos Iau.
Rydym wedi ein lleoli 5 milltir i’r dwyrain o Aberystwyth ym mhentref Capel Bangor.
Loading...
No Records Found
Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.
Maps failed to load
Sorry, unable to load the Maps API.