‘Does ddim lle gwell ar gyfer taith ddymunol mewn car nag o amgylch ardal Pumlumon yng Nghanolbarth Cymru. Isod, gweler ddewis o ddwy daith sy’n cynnig cyfle perffaith i chi fwynhau’r golygfeydd gwych a chyrchu rhai o atyniadau’r ardal.
Y Daith Goch
Mae’r daith yma yn eich tywys trwy olygfeydd mwy addfwyn yr ardal, ac mae’n ddelfrydol os ydych chi am weld pontydd Pontarfynach. O Aberystwyth, cymerwch yr A4120 i Bontarfynach. Yn syth wedi gwesty’r Hafod, trowch i’r dde tuag at Cwmystwyth. Bydd hyn yn dod â chi at Y Bwa, ardal bicnic braf gyda llwybrau cerdded. Ewch ymlaen i lawr yr allt a chymryd y troad cyntaf i’r dde. Dilynwch y dde nesaf a mynd ymlaen at Eglwys a maes parcio Hafod. Gallwch ymweld â’r eglwys neu fwynhau amrywiaeth o lwybrau cerdded ystâd yr Hafod. Trowch i’r chwith wrth adael y maes parcio ac ewch yn eich blaen tuag at Bontrhydygroes. Trowch i’r chwith dros bont yr afon a dringo i fyny i’r pentref. Mae’r Miners Arms ar eich chwith. Cariwch yn eich blaen a chymryd y fforch dde tuag at Llanafan. Ar y dde i chi saif caffi Cwtch, gyda dewis gwych o deisennau. Ar y chwith i chi mae’r olwyn ddŵr – sydd yn werth ymweld a hi er mwyn dysgu rhywfaint o’i hanes.
Ewch yn eich blaen i lawr am Llanafan i ymuno â’r B4340. Trowch i’r dde yn ôl am Aberystwyth
Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.
Sorry, unable to load the Maps API.

