‘Does ddim lle gwell ar gyfer taith ddymunol mewn car nag o amgylch ardal Pumlumon yng Nghanolbarth Cymru. Isod, gweler ddewis o ddwy daith sy’n cynnig cyfle perffaith i chi fwynhau’r golygfeydd gwych a chyrchu rhai o atyniadau’r ardal.
Y Daith Las
Mae’r daith yma yn mynd â chi hyd ochr orllewinol mynydd Pumlumon, ac ar draws argae cronfa ddŵr Nant-y-moch.
O Aberystwyth, cymerwch yr A487 i Bow Street, ac yn eich blaen i Tal-y-Bont. Trowch i’r dde yn sgwâr y pentref a dilynwch yr arwyddion ar gyfer Nantymoch. Ar ôl croesi’r argae, ewch ymlaen am Bonterwyd a’r A44. Trowch i’r dde i fynd yn ôl am Aberystwyth.
Os ydych chi’n dymuno gyrru i’r cyfeiriad arall, ewch ar yr A44 i Ponterwyd. Cymerwch y 3ydd troad i’r chwith yn y pentref tuag at Nantymoch. Ar ôl croesi’r argae, ewch yn eich blaen am Talybont. Trowch i’r chwith i’r A470 yn ôl am Aberystwyth.
Sorry, no records were found. Please adjust your search criteria and try again.
Sorry, unable to load the Maps API.